Canlyniadau 1–20 o 2000 ar gyfer speaker:Leanne Wood

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau Iechyd yn y Rhondda (24 Maw 2021)

Leanne Wood: Flwyddyn wedi’r cyfyngiadau symud mae llawer wedi newid. Ar ddechrau 2020, roedd llawer ohonom yn y Rhondda a thu hwnt yn ymladd i gadw gwasanaethau damweiniau ac achosion brys dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae cynlluniau canoli eich Llywodraeth Lafur, diolch byth, wedi’u rhoi o'r neilltu, ac am byth y tro hwn, gobeithio. Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau Iechyd yn y Rhondda (24 Maw 2021)

Leanne Wood: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wella gwasanaethau iechyd i bobl yn y Rhondda? OQ56505

6. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Cymru — Cymru wrth-hiliol (23 Maw 2021)

Leanne Wood: Mae hiliaeth systemig a systematig yng Nghymru wedi bod yn rhemp ers tro byd. Amlygwyd anghydraddoldebau hyd yn oed yn fwy yn ystod COVID, drwy ei effeithiau anghymesur ar gymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Rwy'n dal i fod wedi fy syfrdanu ein bod yn dal heb weld menyw o gymuned pobl dduon, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig yn cynrychioli pobl yn y fan yma yn y Senedd hon o...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (23 Maw 2021)

Leanne Wood: Mae adroddiad terfynol tasglu'r Cymoedd wedi'i gyhoeddi, ac mae barn rhanddeiliaid yn cynnwys dweud bod y tasglu, ac rwy'n dyfynnu, wedi cael effaith uniongyrchol eithaf cyfyngedig ar gymunedau'r Cymoedd. Tynnodd sylw hefyd at ddiffyg adnoddau. Dyfyniad uniongyrchol arall o gasgliadau'r adroddiad: Dechreuodd Tasglu'r Cymoedd gyda chyfres o nodau ac amcanion uchelgeisiol iawn ond nid oedd...

26. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cam-Drin Domestig (16 Maw 2021)

Leanne Wood: Nid oeddwn i'n meddwl y gallem ni fynd heddiw heb ddweud rhywbeth am y pandemig o drais gan ddynion yn erbyn menywod ar ôl digwyddiadau'r pythefnos diwethaf. Y penwythnos cyn diwethaf, cafodd Wenjing Lin 16 oed o'r Rhondda ei lladd o ganlyniad i drais gan ddyn. Wedyn fe wnaethom ni glywed bod corff Sarah Everard wedi'i ganfod, ac mae'n ymddangos y cafodd hithau ei lladd hefyd o ganlyniad i...

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (16 Maw 2021)

Leanne Wood: Yn ystod yr wythnos diwethaf, rwyf wedi cael pentwr o gwynion gan rieni yn y Rhondda sydd heb lwyddo i sicrhau lle i'w plentyn neu eu plant yng nghlwb brecwast yr ysgol. Nawr, mae hwn yn fater a ddaeth i fy sylw tua diwedd y llynedd, pan gafodd y cylch diwethaf o leoedd brecwast eu llenwi'n gyflym iawn, gan adael llawer o rieni nid yn unig yn siomedig ond mewn anobaith. Ar y pryd,...

15. Dadl: Setliad yr Heddlu 2021-22 ( 9 Maw 2021)

Leanne Wood: Fel pob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru, mae'r gwasanaeth heddlu wedi bod yn destun cyni ers cwymp bancio 2008, ac mae pob gwasanaeth heddlu yn y wlad hon wedi gweld ei gyswllt rheng flaen â'r cyhoedd yn lleihau wrth i orsafoedd heddlu gau a chanolfannau heddlu gael eu sefydlu ymhellach i ffwrdd o'r cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu. Mae pawb yr wyf i wedi siarad â nhw sy'n gweithio yn...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 9 Maw 2021)

Leanne Wood: Mae pryderon wedi'u codi gan elusennau sy'n gweithio gyda phobl â chanser y gallai llawer o bobl ledled y wlad hon fod wedi colli diagnosis o ganser. Nawr, yn y Rhondda, roedd yn broblem, cyn argyfwng COVID, fod pobl yn gadael pethau'n rhy hwyr cyn mynd i weld y meddyg am symptomau pryderus a pharhaus. Roedd llawer gormod o bobl yn cael diagnosis o ganser yn hwyr, a hynny'n aml wrth iddyn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Prosiect Skyline yn y Rhondda ( 9 Maw 2021)

Leanne Wood: Prif Weinidog, pan ddadorchuddiwyd prosiect Skyline am y tro cyntaf, roedd yn addo cymaint. Fel Prif Weinidog, fe wnaethoch chi ymateb i gwestiwn a ofynnais i am greu swyddi a chyfleoedd yn y Rhondda, gan ddadlau bod prosiect Skyline yn dystiolaeth nad oedd y Blaid Lafur wedi anghofio am y Rhondda. Ym mis Hydref 2019, fe wnaethoch chi ddweud y byddech chi'n barod i, ac rwy'n dyfynnu: wneud...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Prosiect Skyline yn y Rhondda ( 9 Maw 2021)

Leanne Wood: 9. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth a roddwyd i brosiect Rhondda Skyline? OQ56421

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 2 Maw 2021)

Leanne Wood: Clywais ymateb y Prif Weinidog yn gynharach i'r cwestiwn ynghylch blaenoriaeth brechu i ofalwyr di-dâl. Rwyf i wedi cael nifer o bobl yn y Rhondda yn cysylltu â mi yn dweud eu bod nhw naill ai'n ofalwyr di-dâl neu fod ganddyn nhw gyflyrau iechyd sylfaenol ond nad ydyn nhw wedi cael eu rhoi yn y categorïau blaenoriaeth. Rydym ni'n ymwybodol bod ffurflen ar ei ffordd i ofalwyr di-dâl allu...

QNR: Cwestiynau i Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg (24 Chw 2021)

Leanne Wood: Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi gwasanaethau iechyd meddwl yn y Rhondda?

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (23 Chw 2021)

Leanne Wood: Mae yna brinder affwysol o fannau gwefru ar gyfer cerbydau trydan yn y Rhondda. Mae map Cymru yn dangos nad oes dim byd yn y Rhondda Fach nac yn y Rhondda Fawr, a'r pwyntiau gwefru agosaf, yn dibynnu ar ble yr ydych chi'n byw yn y Rhondda, yw Hirwaun, Aberdâr neu ychydig y tu allan i Lantrisant. Nawr, nid yw'n syndod mai dim ond 0.17 y cant o gerbydau trydan sy'n cael eu defnyddio yng...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (23 Chw 2021)

Leanne Wood: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i atal llifogydd yn y Rhondda ers storm Dennis y llynedd?

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 9 Chw 2021)

Leanne Wood: Mae'n siŵr y bydd y Llywodraeth yn ymwybodol o adroddiadau diweddar fod staff cartrefi gofal yn gorfod cymryd gwyliau blynyddol pan fydd yn ofynnol iddyn nhw hunanynysu, a'r rheswm dros hyn yw nad yw'r tâl salwch statudol o £96 yr wythnos yn ddigon i fyw arno, yn enwedig pan fydd llawer o bobl sy'n gweithio mewn cartrefi gofal wedi gorfod ynysu nifer o weithiau. Felly, a ydych chi'n cytuno...

QNR: Cwestiynau i Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol ( 3 Chw 2021)

Leanne Wood: Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch sicrhau bod gweithwyr awdurdodau lleol yn cael gwared ar gyfarpar diogelu personol ac eitemau gwastraff risg COVID-19 eraill yn ddiogel?

4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Adolygiad Clinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ( 2 Chw 2021)

Leanne Wood: Nid yw'n bosibl gorbwysleisio'r boen, y loes, y niwed a'r gofid sydd wedi'u hachosi i bob un o'r teuluoedd y mae'r sgandal hon wedi effeithio arnyn nhw, ac mae hynny'n parhau. Nid yw'n rhywbeth sydd yn y gorffennol; mae'n rhywbeth y mae pobl yn byw ag ef bob dydd. Mae'r adroddiad yn dweud, o'r 28 achos o ofal a adolygwyd, mewn dwy ran o dair o'r achosion hyn, y gellid disgwyl yn rhesymol i...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 2 Chw 2021)

Leanne Wood: A gawn ni ddatganiad o ran nifer y disgyblion sydd heb ddyfais neu gyfle i ddefnyddio'r rhyngrwyd er mwyn gwneud eu gwaith addysg gartref? A oes gan y Llywodraeth syniad o nifer y plant sydd heb y modd i gymryd rhan mewn gwersi ysgol ar-lein? Oherwydd os yw'r Llywodraeth o ddifrif ynghylch dileu'r cysylltiad rhwng cyrhaeddiad ysgol a thlodi, yna dylai'r mater hwn fod yn brif flaenoriaeth. Ac...

8. Dadl Plaid Cymru: Llifogydd yn Rhondda Cynon Taf (27 Ion 2021)

Leanne Wood: Rydym i gyd yn aros yn eiddgar am ganlyniad proses adran 19, ac mae hynny ar fin digwydd, ond mae'r cyngor yn arwain ar hynny, ac yn amlwg, roedd gan y cyngor rôl i'w chwarae, ac mae ganddo rôl i'w chwarae yn y dyfodol, felly dyna pam na all y broses hon fod yn annibynnol. Rydym ni ym Mhlaid Cymru, a phob un o'r bobl a ddioddefodd lifogydd a arolygwyd gennym, wedi dweud mai dim ond...

8. Dadl Plaid Cymru: Llifogydd yn Rhondda Cynon Taf (27 Ion 2021)

Leanne Wood: Diolch. Rwy'n dychwelyd at y cwestiwn hwn o ymchwiliad annibynnol i lifogydd am yr eildro mewn ychydig dros fis, ac nid wyf yn ymddiheuro am hynny. Ar ôl y llifogydd dinistriol ym mis Chwefror 2020 a'r llifogydd sydyn a ddilynodd yn ddiweddarach yn y flwyddyn, mae yna gartrefi o hyd yn Rhondda Cynon Taf lle mae pobl yn aros iddynt gael eu hadfer. Ar wahân i rai o'r symudiadau tir sy'n peri...


1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.