Gareth Bennett: Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor diwylliant am y ddadl heddiw, ac am eu hymdrechion dros y pum mlynedd diwethaf dan gadeiryddiaeth Bethan Sayed. Rwy'n siŵr ei bod wedi bod yn Gadeirydd da iawn. Yn anffodus, mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn anghytuno â'r adroddiad y maent wedi'i gynhyrchu. Er ei fod yn llawn bwriadau da, credaf fod yr adroddiad yn seiliedig ar gynsail ffug. Wedi'r cyfan, pwy...
Gareth Bennett: Rydym ni yn y Blaid Diddymu Cynulliad Cymru yn gwrthwynebu'r Bil hwn gan Lywodraeth Cymru. Mae yna rannau da yn y Bil hwn, ac nid wyf i'n dadlau yn groes i hynny, ac mae rhywfaint ohono wedi ei amlinellu gan y Gweinidog heddiw—rhai o'r rhannau da hynny—ac mewn sawl ffordd, mae hi wedi bod, er gwaethaf fy ngwahaniaethau gwleidyddol mawr â hi, yn Weinidog galluog iawn. Ac fe wnaeth...
Gareth Bennett: Nac ydy, Llywydd. Diolch.
Gareth Bennett: Nid wyf yn ei gynnig, Llywydd, na 39.
Gareth Bennett: Ydw, rwy'n cynnig. Diolch.
Gareth Bennett: Rwy'n cynnig, Llywydd.
Gareth Bennett: Diolch, Llywydd. Diolch i Siân ac i Kirsty am eu cyfraniadau i'r ddadl. Roedd sylwadau Siân yn ymwneud yn bennaf â'r angen i ddatblygu un continwwm ar gyfer addysgu'r Gymraeg, sydd, ynddo'i hun, yn gysyniad clodwiw, ond wrth gwrs mae'n cyd-fynd â cheisio cyrraedd y targed o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg, yr ydym ni, fel plaid—fy mhlaid i fy hun, Plaid Diddymu Cynulliad Cymru—yn reddfol...
Gareth Bennett: Diolch, Llywydd. Cynigiaf yn ffurfiol y gwelliannau a gyflwynwyd yn fy enw i ac a gefnogir gan Mark Reckless, sy'n cael eu cynnig gyda chefnogaeth Plaid Diddymu Cynulliad Cymru hefyd. Mae'r grŵp hwn o welliannau yn ymdrin ag addysgu Cymraeg. Mae'r gwelliannau yr wyf i'n eu cynnig heddiw yn ceisio adlewyrchu'r ffaith bod gan Gymru lawer o wahanol rannau ac nad oes gan bob un ohonyn nhw yr un...
Gareth Bennett: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella iechyd y cyhoedd yng Nghanol De Cymru?
Gareth Bennett: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth gofal iechyd meddwl yng Nghanol De Cymru?
Gareth Bennett: Ymddiheuriadau, Lywydd, ond nid oedd gennyf ddim i'w ddweud am y grŵp hwn. Rydym yn gwrthwynebu'r gwelliannau hyn. Nid oeddwn eisiau siarad ar y cam hwn, ond diolch.
Gareth Bennett: Nac ydyw.
Gareth Bennett: Diolch, bawb, am gyfrannu at y ddadl ar y grŵp hwn. Credaf fod Mark Isherwood wedi gwneud sylwadau adeiladol ac ymarferol. Credaf yn anffodus fod Rhun a Julie wedi ildio i rethreg bleidiol. Mae eu gwrthwynebiadau fel y'u nodwyd i beidio â gadael i ddyddiad etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu lywio'u gweithredoedd yn gwbl ffug, oherwydd mae Rhun yn dweud bod yn rhaid gwneud y...
Gareth Bennett: Diolch, Lywydd. Fe fyddaf yn gryno, gan fod y ddau welliant gan fy mhlaid—Diddymu—yn eithaf syml yn eu bwriad. Gwelliant 3 yw'r gwelliant o sylwedd, tra bod gwelliant 4 yn ganlyniad i welliant 3. Felly, os na chefnogir gwelliant 3, ni fyddaf yn cynnig gwelliant 4. Mae'r gwelliannau'n ymwneud ag etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu, sydd i fod i gael eu cynnal yng Nghymru ar 6 Mai....
Gareth Bennett: Ie, diolch am y gwerthusiad hwnnw. Mae'n sefyllfa anodd. Mae'n ymddangos i mi fod y profiad o ddysgu gartref wedi amrywio'n aruthrol, rhywbeth y dylem fod wedi'i ddisgwyl, mae'n debyg. Cyn y gallwn fynd i'r afael â sut i ddal i fyny ag addysg goll plant oedran ysgol wrth inni ddod allan o'r argyfwng COVID, bydd angen rhywun arnom i asesu'n awdurdodol ble yn union rydym arni. O ystyried...
Gareth Bennett: 4. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud ynghylch i ba raddau y gallai myfyrwyr fod wedi syrthio ar ei hôl hi yn ystod pandemig COVID-19? OQ56281
Gareth Bennett: Diolch am y datganiad yna. Rydym ni'n mynd drwy argyfwng iechyd difrifol iawn a rhaglen frechu torfol hefyd erbyn hyn. Arweiniwyd y broses o gaffael y brechlynnau gan Lywodraeth y DU, ac rwy'n credu y byddai'r rhan fwyaf o bobl synhwyrol yn cytuno ei bod wedi bod yn llwyddiant mawr a bod caffael y brechlynnau yn enghraifft dda o undeb y DU yn gweithio ar ei orau. Mae'n ymddangos erbyn hyn bod...
Gareth Bennett: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynglŷn â statws cyfansoddiadol Cymru o fewn y Deyrnas Unedig? OQ56293
Gareth Bennett: Diolch. Roeddwn yn awyddus i godi mater cladin heddiw. Mae mwy na thair blynedd wedi bod bellach ers trasiedi Tŵr Grenfell, ac mae lesddeiliaid sy'n byw mewn blociau o fflatiau yng Nghymru—rhai ohonynt yng Nghaerdydd, rhai ohonynt mewn mannau eraill—mae'r lesddeiliaid hyn sy'n cael problemau gyda chladin yn dal i aros i glywed pa gymorth y byddant yn ei gael gan Lywodraeth Cymru. Gwyddom...
Gareth Bennett: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus lleol yng Nghanol De Cymru? OQ56226