Cefin Campbell: First Minister, do you agree with the sentiment expressed in the recent Government statement on dental reform that private dentistry is an acceptable alternative, or will we see a real commitment from Welsh Government to work with the profession to ensure a dental service that works for everyone in Wales?
Cefin Campbell: Diolch. Llandeilo, Hwlffordd, Abergwaun—enghreifftiau o ddeintyddion yn fy rhanbarth i lle mae darpariaeth NHS wedi dod i ben dros y misoedd diwethaf. Mae'r sefyllfa ddeintyddol yng Nghymru wledig yn argyfyngus ar hyn o bryd, a'r newid, fel roeddech chi'n cyfeirio atyn nhw, yn y cytundebau diweddar, wedi achosi pryderon sylweddol, fel cafodd eu mynegi i mi mewn gohebiaeth ddiweddar gan...
Cefin Campbell: 3. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella mynediad at ddarpariaeth ddeintyddol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ59370
Cefin Campbell: Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith cyllideb Llywodraeth y DU ar Ganolbarth a Gorllewin Cymru?
Cefin Campbell: Mewn ymateb i FOI gen i ychydig o wythnosau yn ôl, mae yna 11,000 o bobl yn y rhanbarth rŷn ni'n dau yn ei gynrychioli ar restr aros i gofrestru gyda deintydd NHS. Llynedd, fe wnaeth y BBC arolwg ar draws y Deyrnas Gyfunol, yn cynnwys ein rhanbarth ni, a oedd yn dangos nad oedd capasiti gan unrhyw ddeintydd NHS i gymryd unrhyw gleifion ychwanegol. Felly, beth bynnag mae'r datganiad yma'n...
Cefin Campbell: Diolch yn fawr iawn. Wel, gan ei bod hi heddiw yn Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod, ac yn Fis Ymwybyddiaeth Endometriosis, fel rŷch chi wedi fy nglywed i yn dweud o'r blaen yn y Siambr, dwi'n cael llawer iawn o ohebiaeth gan ferched yn y gorllewin sydd yn dangos nad yw'r ddarpariaeth ar gyfer menywod sy'n dioddef o endometriosis yn hanner digon da. O ran y cynllun iechyd menywod, ar draws y 29...
Cefin Campbell: 8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi menywod ag endometriosis yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ59227
Cefin Campbell: Diolch yn fawr i chi am y cadarnhad yna. Mae'r ffigurau yna ar eu ffordd, felly edrych ymlaen i'w gweld nhw. Ac mae diddordeb penodol gen i, fel sawl un ohonom ni yn y Siambr, yn ymdrechion y Comisiwn i gynyddu canran gwariant y Comisiwn ar gyflenwyr o Gymru er mwyn defnyddio'r bunt gyhoeddus er lles ein cymunedau lleol, ac er lles pobl Cymru. Mae yna enghreifftiau lu o hyn, megis Castell...
Cefin Campbell: 3. A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch i ba raddau mae'n cwrdd a'i ddangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer y chweched Senedd? OQ59186
Cefin Campbell: Diolch yn fawr i chi am yr ateb. Dros Gymru, fel rŷch chi'n gwybod, mae dros ryw 1,200 o brojectau sosioeconomaidd wedi cael eu cyllido dan y cynllun datblygu gwledig presennol, ac mae'r projectau hyn wedi cynnwys ystod amrywiol o weithgareddau, gan gynnwys hwyluso mynediad at wasanaethau cymunedol hanfodol mewn ardaloedd gwledig. Mae sefydliadau yn fy rhanbarth i, wrth gwrs, wedi mynegi...
Cefin Campbell: Weinidog, nid yw’r cyhoeddiad siomedig yn hwyr nos Wener fod y cynllun cyllid brys ar gyfer gweithredwyr i’w ymestyn am dri mis yn unig wedi darparu'r sicrwydd sydd ei angen ar y diwydiant. Ochr yn ochr â chostau cynyddol—tanwydd, cynnal a chadw a chyflogau, ac ati—nid yw lefelau defnydd lle telir am docyn ond wedi dychwelyd i oddeutu 65 y cant o’r hyn oeddent cyn COVID-19 ledled...
Cefin Campbell: 2. Sut fydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi datblygu gwledig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru wrth i gyllid yr UE ddod i ben? OQ59133
Cefin Campbell: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Fel rŷch chi'n gwybod, mae hwn yn gyfnod prysur iawn i ffermwyr, wrth gwrs, achos mae'r tymor wyna newydd dechrau, ac mae'r tywydd yn gwella, mae pobl yn cael eu temtio i fynd mas am dro gyda'u cŵn yng nghefn gwlad Cymru, ac mae hyn, wrth gwrs, yn achosi pryder mawr i ffermwyr oherwydd yr ymosodiadau gan gŵn ar anifeiliaid fferm. Mae ymchwil diweddar gan NFU...
Cefin Campbell: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Weinidog, dwi'n croesawu'n fawr iawn ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau—
Cefin Campbell: Sori, sori.
Cefin Campbell: Ar ôl blwyddyn a hanner, dwi'n anghofio.
Cefin Campbell: Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Dwi'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau y bydd holl anghenion trydan Cymru yn y dyfodol yn dod o ffynonellau adnewyddol, a hynny erbyn 2035. Ond mae fy nghwestiwn i'n gysylltiedig â sut rydym ni'n bwriadu trosglwyddo'r trydan yma ar draws cefn gwlad. Nawr, fel dywedoch chi, mewn ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol neu barciau cenedlaethol mae...
Cefin Campbell: 6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cymru parthed codi peilonau trydan yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ59095
Cefin Campbell: Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i fynd i'r afael ag effaith cyllid strwythurol yr UE yn dod i ben yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Cefin Campbell: Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o'r defnydd o feilïaid wrth gasglu dyledion ar deuluoedd sy'n byw mewn tlodi yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?