Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn am yr ateb, Llywydd. Wythnos diwethaf, fe wnes i ofyn cwestiwn i’r Gweinidog amaeth ynghylch defnyddio grym caffael y Llywodraeth i ddefnyddio gwlân Cymru, er enghraifft mewn carpedi yn ein cerbydau trafnidiaeth gyhoeddus. Yn yr un modd, pa ystyriaeth mae’r Comisiwn wedi’i rhoi i sicrhau bod gwlân Cymru yn cael ei ddefnyddio ar ystâd y Senedd, a bod polisi caffael...
Mabon ap Gwynfor: 4. A wnaiff y Comisiwn roi diweddariad ynghylch y polisi caffael ar gyfer deunydd ar ystâd y Senedd? OQ59367
Mabon ap Gwynfor: I will try to respond to some of Janet's questions in my response now. This supplementary legislative consent motion, like every other LCM, undermines the principles of devolution and fails to adequately address issues surrounding social housing here in Wales. I, therefore, oppose this LCM, and would urge my fellow Members to do so too. This Bill is an infringement on the powers of the Welsh...
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am y cyhoeddiad yna. Does yna ddim rheswm gennym ni i wrthwynebu'r cyhoeddiad, ac rydyn ni'n meddwl ei fod o'n ddatblygiad doeth yn yr hinsawdd yma, felly diolch yn fawr iawn.
Mabon ap Gwynfor: Diolch i'r Gweinidog am y datganiad yma heddiw a'r cynllun sydd wedi cael ei gyflwyno. Dwi'n arbennig o falch o weld yr elfen gydweithredol sydd yn rhan o'r datganiad, sydd mor bwysig os ydyn ni'n mynd i fynd i'r afael â'r her o gael gwared ar TB. Ond dwi'n sefyll ger eich bron chi heddiw i drafod y rhaglen ddiwygiedig ar gyfer dileu TB gyda chalon drom, oherwydd dwi’n boenus ymwybodol o...
Mabon ap Gwynfor: Ie, amdani.
Mabon ap Gwynfor: Dwi'n falch iawn clywed am yr enghraifft dda yna. Dwi'n meddwl, er tegwch i'r Dirprwy Weinidog, ei fod e wedi sôn am yr angen i edrych ar arferion da eraill, a cheisio eu mabwysiadu nhw. A dyna rai o'r atebion tymor canolig sydd wedi cael eu rhoi, ac mi ddof i ymlaen atynt yn y munud. Ond mae'r creisis yma rŵan, heddiw hyn, yn ein wynebu ni ar hyn o bryd. Ac fel roeddwn i am sôn, dwi...
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch i bawb am gymryd rhan yn y drafodaeth yma. Wel, os mai trafnidiaeth gyhoeddus ydy'r Cinderella o wasanaethau cyhoeddus, yna gwasanaeth bysiau ydy chwaer fach angof Cinderella. Diolch yn fawr i ti, Delyth, am agor y ddadl yma mor huawdl, gan beintio darlun inni ar y cychwyn—rydyn ni wedi clywed mai cwmnïau cymunedol ydy nifer o'r cwmnïau yma sydd yn...
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am yr ateb yna. Dwi am fynd ymlaen rŵan, os caf i, at goedwigaeth. Mae tua 15 y cant o Gymru wedi'i orchuddio efo coedwigaeth o wahanol fathau, sef tua 316,000 hectar yma. Mae'r coed yma yn wahanol drwyddi draw, o wahanol rywogaethau a gwahanol fathau o orchudd, yn goed unigol, coedlannau bychan neu fforestydd mawr. Ond yr un peth sydd yn gyffredin ydy bod...
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae gwlân Cymru yn gynnyrch cynaliadwy, aml bwrpas, ac yn dda yn amgylcheddol. Mae yna alw cynyddol am gynnyrch eco-gyfeillgar, ac mae gwlân Cymru'n berffaith i ateb y galw yma. Fel mae'r Gweinidog yn ei wybod, mae gan ffermwyr Cymru ymrwymiad diysgog i sicrhau amaeth cynaliadwy, ac wrth gwrs, gall gwlân Cymru chwarae rhan bwysig wrth i'r sector geisio byw i...
Mabon ap Gwynfor: Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hwyluso'r gwaith o ficrosglodynnu cathod a chŵn?
Mabon ap Gwynfor: Diolch i'r Gweinidog am y datganiad yma heddiw. Mae'n ddatganiad pwysig yr ydym ni ar y meinciau yma yn croesawu, a fydd yn golygu ein bod yn gweld cam sylweddol yn cael ei gymryd ymlaen er mwyn mynd i'r afael â'r broblem ddifrifol yma. Mae'n dda gweld ffrwyth llafur y cytundeb yma rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth ar waith, gan wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl bob dydd. Am yn...
Mabon ap Gwynfor: Un ar ddeg diwrnod yn ôl, ges i neges gan fwrdd gwirfoddol Hamdden Harlech ac Ardudwy yn cyhoeddi â thristwch eu bod nhw am orfod cau'r pwll nofio ar ddiwedd y mis yma. Daw'r cyhoeddiad yn sgil cynnydd dychrynllyd yn eu costau. Mae costau'r ganolfan wedi cynyddu o £4,000 y mis i £12,000 y mis, ac mae'r £12,000 yma'n cynnwys cynllun cefnogi ynni Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol. Mi fuasai...
Mabon ap Gwynfor: A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd, os gwelwch yn dda, ynghylch sicrwydd tenantiaeth i bartneriaethau meddygon teulu? Mae hyn yn dod yn sgil cyhoeddiad bod landlord meddygfa Porthmadog wedi rhoi cais cynllunio ymlaen i droi'r adeilad yn fflatiau. Bydd hyn yn golygu y bydd yn rhaid i'r feddygfa, o bosibl, gau, gan nad oes yna unlle arall ar ei chyfer hi yn y dref ar hyn o bryd....
Mabon ap Gwynfor: Mae hynny yn hollol wir am Lanbedr. Felly dwi'n galw unwaith eto ar y Llywodraeth i gydweithio efo Cyngor Gwynedd er mwyn datblygu'r cynllun i wneud ffordd osgoi arafach yn Llanbedr a buddsoddi yn gynhwysfawr yn ein trafnidiaeth gyhoeddus yng nghefn gwlad Cymru.
Mabon ap Gwynfor: 'bydd yna deithiau car bob amser, fel yr unig ffordd ymarferol o deithio o gwmpas...yn enwedig mewn ardaloedd gwledig iawn, y car fydd y prif ddull teithio bob amser.'
Mabon ap Gwynfor: Dwi'n mynd i ymateb, mewn gwirionedd, yn fy nghyfraniad, i araith huawdl Huw. Roedd Huw yn sôn, wrth gwrs, am yr angen i newid, a dwi'n cytuno'n llwyr efo'r hyn roedd o'n ei ddweud, ond roedd yr hyn roedd Huw yn ei ddweud yn dod o bersbectif ar sbectrwm trefol a dinesig. Mae'r byd yn wahanol iawn yng nghefn gwlad. Fel y gŵyr pawb, cynllun ffordd osgoi Llanbedr oedd y cyntaf i glywed am ei...
Mabon ap Gwynfor: Diolch i'r Gweinidog am yr ymateb yna. Fe wnes i gynnal cyfarfod cyhoeddus yn Nhywyn fis yn ôl i drafod y problemau sylweddol mae pobl yr ardal yn eu dioddef yn sgil diffyg gwasanaethau iechyd yno. Roedd neuadd Pendre yn orlawn, sydd yn dyst i'r teimladau cryfion yn yr ardal. Roedd gan yr ardal wasanaeth a darpariaeth iechyd rhagorol tan tua phedair blynedd yn ôl. Rŵan maen nhw wedi mynd o...
Mabon ap Gwynfor: Diolch i Russell George am y cwestiwn pwysig yma. Yn yr ymateb a’r ymgyrch ar lawr gwlad, mae hynny wedi dangos yn glir y pwysigrwydd mae'r elusen yma yn ei ddal yng nghalonnau pobl ein cymunedau ni. Fe wnes i fynychu amryw o gyfarfodydd cyhoeddus yn Nhywyn, Porthmadog, Pwllheli a Chaernarfon, gyda channoedd o bobl yn troi allan yng nghanol gaeaf er mwyn gwrando a rhannu profiadau. Y bobl...
Mabon ap Gwynfor: 'Prynu a gwerthu ein heiddo tirol ein hunain',