Canlyniadau 1–20 o 2000 ar gyfer speaker:Siân Gwenllian

8. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil twristiaeth Cymru (29 Maw 2023)

Siân Gwenllian: Rydych chi’n siarad llawer am y sector; ydych chi’n mynd i drafod y cysylltiad rhwng Visit Wales a’r cymunedau lle mae twristiaeth yn bodoli? Dwi ddim wedi eich clywed chi'n sôn am y cymunedau.

7. Cynnig i addasu Rheolau Sefydlog — Newidiadau amrywiol (29 Maw 2023)

Siân Gwenllian: Cynnig yn ffurfiol.

6. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog — Pleidleisio drwy ddirprwy (29 Maw 2023)

Siân Gwenllian: Diolch yn fawr iawn, ac mi wnaf i ymateb i'r sylwadau ynglŷn â'r paru, achos dyma sydd wedi cymryd sylw yn y Pwyllgor Busnes hefyd. Trefniant anffurfiol ydy paru, wrth gwrs, lle mae Aelodau yn gallu paru a'r ddau yn peidio â phleidleisio o gwbl, felly does yna ddim cofnod o'u pleidlais nhw. Mae gwneud pleidlais drwy ddirprwy yn galluogi'r Aelod yna i gofnodi pleidlais drwy berson arall yn...

6. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog — Pleidleisio drwy ddirprwy (29 Maw 2023)

Siân Gwenllian: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, ac mae'n bleser gen i siarad y prynhawn yma ar fater sy'n arwydd o gam pellach ar y llwybr at greu Senedd fodern, flaengar, gynhwysol, y gallwn ni i gyd fod yn falch ohoni hi. Mae’r Pwyllgor Busnes, ym marn y mwyafrif, wedi cytuno i gynnig nifer o newidiadau i gynllun pleidleisio drwy ddirprwy y Senedd. Mae’r Pwyllgor Busnes yn cynnig y newidiadau yma er...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Uned Mamau a Babanod i'r Gogledd (22 Maw 2023)

Siân Gwenllian: Yn ôl datganiad diweddar gan y bwrdd iechyd lleol, maen nhw’n gweithio efo NHS England i ddarparu uned yng Nghaer, gyda dau wely ynddi ar gyfer mamau o bob rhan o’r gogledd. Dwi’n deall mai yn Ysbyty’r Countess of Chester y bydd yr uned yma. A fedrwch chi gadarnhau hynny? Mewn adroddiad a gyhoeddwyd y llynedd gan y Comisiwn Ansawdd Gofal, nodwyd fod gwasanaethau mamolaeth yn...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Merched yn Gynghorwyr Sir (22 Maw 2023)

Siân Gwenllian: Ers yr etholiad cyngor sir flwyddyn yn ôl, tua 35 y cant o gynghorwyr Cymru sy'n ferched. Yn Arfon, fe lwyddon ni i gynyddu nifer y merched a oedd yn sefyll dros Blaid Cymru o 21 y cant. Roedd hyn yn ganlyniad gwaith cwbl fwriadus gan rai ohonom ni, llawer o sgyrsiau o anogaeth, hyfforddiant, mentora, ac mae'r gefnogaeth wedi parhau dros y flwyddyn ddiwethaf iddyn nhw ers yr etholiad. Ond...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Merched yn Gynghorwyr Sir (22 Maw 2023)

Siân Gwenllian: 1. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r ymdrechion llwyddiannus sy'n mynd ymlaen yn Arfon a mannau eraill i ddenu mwy o ferched i fod yn gynghorwyr sir? OQ59302

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Uned Mamau a Babanod i'r Gogledd (22 Maw 2023)

Siân Gwenllian: 6. Pa drafodaethau mae’r Gweinidog wedi'u cynnal gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am uned mamau a babanod i’r gogledd a fyddai'n gwasanaethu pobl Arfon? OQ59297

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (21 Maw 2023)

Siân Gwenllian: A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am gynllun meddygfa newydd Waunfawr yn Arfon?

6. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwygio Deintyddiaeth (14 Maw 2023)

Siân Gwenllian: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae arnaf i ofn nad ydy cynnwys eich datganiad chi yn cyd-fynd yn y mymryn lleiaf efo’r hyn dwi yn ei glywed gan gleifion a deintyddion yn etholaeth Arfon. Yn ôl arolwg o ddeintyddion ar draws y gogledd, mae 88 y cant yn credu nad oes ganddyn nhw’r capasiti i weld y cleifion newydd sy'n ddisgwyliedig o dan y cytundeb newydd. Mae 96 y cant yn dweud bod y cleifion...

3. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Ansawdd Dŵr Llyn Padarn (14 Maw 2023)

Siân Gwenllian: Mae etholwyr wedi cysylltu efo fi yn bryderus am eu bod nhw wedi darganfod planhigyn ymledol yn tyfu yn Llyn Padarn yn Llanberis, ac maen nhw’n grediniol bod arllwysiad carthion i’r dŵr yn bwydo’r tyfiant. Mae yna arbenigwr wedi cadarnhau mai planhigyn o’r enw lagarosiphon sydd yn y llyn—rhywbeth sy’n enw newydd i mi, ond dyna mae’r arbenigwr yn dweud ydy o. Mae’r planhigion...

3. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Ansawdd Dŵr Llyn Padarn (14 Maw 2023)

Siân Gwenllian: 2. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar effaith arllwysiad carthion ar ansawdd y dŵr yn Llyn Padarn? OQ59245

6. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Uwchgyfeirio ac ymyrraeth bellach i wella ansawdd gwasanaethau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (28 Chw 2023)

Siân Gwenllian: Mi wnaf ofyn un peth arall, felly. Mi wnaeth y Prif Weinidog sôn yn y sesiwn gwestiynau fod yna ddarnau eraill o wybodaeth wedi eich arwain chi at y cyhoeddiad yma ddoe. Beth ydy'r darnau hynny o wybodaeth? Ydy'r cyfan o'r wybodaeth tu ôl i benderfyniad ddoe allan yna yn y pau cyhoeddus, neu oes yna fwy i ddod?

6. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Uwchgyfeirio ac ymyrraeth bellach i wella ansawdd gwasanaethau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (28 Chw 2023)

Siân Gwenllian: Rydyn ni wedi bod yn fan hyn o'r blaen, wrth gwrs, ond ddaeth y newidiadau mawr, angenrheidiol ddim i fodolaeth, ac yn wir fe wnaed penderfyniadau gwael iawn yn y cyfnod blaenorol o fesurau arbennig. Roedd y bwrdd mewn mesurau arbennig pan ddatgymalwyd yr uned fasgiwlar yn Ysbyty Gwynedd yn enw canoli, ac rydyn ni i gyd yn gwybod beth oedd canlyniad hynny. Felly'r cwestiwn gwaelodol ydy beth...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Canolfan Iechyd a Lles ym Mangor (28 Chw 2023)

Siân Gwenllian: Roeddwn i yn siomedig iawn o glywed fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwrthod y cais am £15 miliwn tuag at y cynllun pwysig yma. Unwaith eto, dyma'r Torïaid yn anwybyddu Bangor ac yn dangos cyn lleied maen nhw'n poeni am bobl Arfon a phobl yng ngogledd-orllewin Cymru. Ond dwi yn benderfynol o barhau i ymgyrchu dros y cynllun yma a chefnogi ymdrechion Cyngor Gwynedd, a'r holl...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Canolfan Iechyd a Lles ym Mangor (28 Chw 2023)

Siân Gwenllian: 4. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am y cynllun i greu canolfan iechyd a lles yng nghanol Bangor? OQ59158

10. Dadl Fer: Gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yn y gogledd: Cyflwyno’r ddadl dros wella gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol a'r darpariaeth ohonynt gan gynnwys ar gyfer teuluoedd Cymraeg eu hiaith (15 Chw 2023)

Siân Gwenllian: A wnaethoch chi edrych ar y model amgen, sef yr un roedd y pwyllgor yn ei argymell yn yr adroddiad a gadeiriwyd gennych—y model amgen o ddarparu'r uned yng Nghymru, ac felly byddai anghenion iaith Gymraeg yn cael eu diwallu ac yn amlwg byddai'n nes at adref i lawer o fenywod, yn hytrach na'r model sydd bellach yn cael ei gynnig, sy'n mynd i greu llawer o broblemau gydag anghenion ieithyddol...

10. Dadl Fer: Gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yn y gogledd: Cyflwyno’r ddadl dros wella gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol a'r darpariaeth ohonynt gan gynnwys ar gyfer teuluoedd Cymraeg eu hiaith (15 Chw 2023)

Siân Gwenllian: Mae hi’n destun pryder mawr nad oes gan fwrdd iechyd Betsi unrhyw gyllideb ar gyfer gwasanaethau amenedigol ysgafn neu gymedrol, er bod £3 miliwn wedi ei neilltuo ar gyfer hyn yn flynyddol ar draws Cymru. Mae hyn yn fwlch sylweddol, ac yn frawychus yn wir, a dwi yn gofyn i’r Dirprwy Weinidog ymchwilio i hyn ac unioni’r sefyllfa ar unwaith. Mae’r bwlch yma yn golygu bod menywod yn...

10. Dadl Fer: Gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yn y gogledd: Cyflwyno’r ddadl dros wella gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol a'r darpariaeth ohonynt gan gynnwys ar gyfer teuluoedd Cymraeg eu hiaith (15 Chw 2023)

Siân Gwenllian: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi am roi amser i Jane Dodds a Rhun ap Iorwerth, ac yn edrych ymlaen at eu cyfraniadau nhw. Mae mamolaeth a chyfnod geni plentyn yn gyfnod positif iawn i lawer ohonom ni, ond dan rhai amgylchiadau, mae’n gallu bod yn gyfnod dyrys ac anodd iawn, ac yn y ddadl fer heno yma, dwi am ganolbwyntio ar y problemau iechyd meddwl sy’n dod i ran rhai merched—yn...


1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.