Hefin David: O sgyrsiau preifat a chyhoeddus, bydd y Gweinidog yn gwybod fy mod yn llwyr gefnogi ymgynghoriad Llywodraeth Cymru. Yng nghyfarfod Pwyllgor yr Economi, Masnach, a Materion Gwledig yr wythnos diwethaf, gofynnais i chi am ymrwymiad, pe bai'r ymgynghoriad sydd ar y ffordd gan Lywodraeth Cymru yn argymell unrhyw beth sy'n achosi cyfyngu ar rasio milgwn yng Nghymru, y byddai stadiwm milgwn Valley...
Hefin David: Diolch. Mae hynny'n ddefnyddiol iawn. Mae dau o'r achosion rydych wedi'u nodi ym mwrdeistref Caerffili. Mae un yn gyfan gwbl o fewn fy etholaeth i, Ysgol Lewis Pengam, ac mae gan y llall gampws yn fy etholaeth i, sef Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, ac mae naw mlynedd ar ôl ar y contractau mentrau cyllid preifat 30 mlynedd gwreiddiol. Nid wyf yn credu y byddem wedi cael yr ysgolion hebddynt, ac maent...
Hefin David: 5. Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o waddol ariannol y fenter cyllid preifat yng Nghymru? OQ59320
Hefin David: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar yr ymgynghoriad sydd i ddod ar ddyfodol rasio milgwn yng Nghymru? OQ59319
Hefin David: Diolch i James Evans am yr ymyriad. Rwy'n credu ei fod yn gwneud ei farn yn hysbys, ac rwy'n meddwl ei fod yn bwynt a fydd yn cael ei glywed gan y Senedd. Yn y ddadl hon heddiw, nid wyf yn mynd i arddel safbwynt, ond mae'n werth clywed gan bob ochr, yn cynnwys gan Jane Dodds a Joel James hefyd. Felly, rydym wedi cael y safbwyntiau hynny wedi'u mynegi, ac rwy'n credu y bydd barn James yn cael...
Hefin David: Gwnaf.
Hefin David: Nid wyf yn mynd i arddel safbwynt heddiw heblaw am safbwynt y Llywodraeth, a safbwynt y Llywodraeth yw bwrw ymlaen ag ymgynghoriad, sef y llwybr cywir i'w ddilyn yn fy marn i. Rwy'n meddwl ein bod wedi clywed llawer o deimladau cryfion ar y mater hwn heddiw, ac rwy'n credu mai ymgynghoriad yw'r ffordd iawn ymlaen, ac rwy'n siarad o safbwynt etholwyr sy'n byw yn fy etholaeth i, sy'n byw yn...
Hefin David: A wnewch chi gymryd ymyriad?
Hefin David: Rhowch y gorau i ddarllen a chael gwared â'r papur. Dwedwch beth—[Anghlywadwy.]
Hefin David: Credaf mai'r pwynt allweddol a wnaed gan y Gweinidog yno yw fy mod, ar y pryd, yn credu bod treth incwm yn rhywbeth y dylid ei ailystyried yn y dyfodol, ond mae'n llygad ei lle i ddweud nad nawr yw'r adeg i wneud hynny. Yr wythnos diwethaf, gwelsom welliant i gyllideb Llywodraeth Cymru gan Blaid Cymru a fyddai wedi costio £2.47 yr wythnos yn ychwanegol i bobl ar y gyfradd sylfaenol, yn ystod...
Hefin David: 1. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith posib o gynyddu'r gyfradd sylfaenol o dreth incwm yng Nghymru? OQ59146
Hefin David: Roedd fy nghwestiwn yn benodol am y £20 miliwn hwnnw o gyllid cyfalaf ar gyfer ysgolion bro. Cyfeiriwyd ato yn y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol—gobeithio bod y teitl hwnnw'n gywir—a oedd yn edrych ar sut y dylid gwario'r arian hwnnw. Adroddiad 'Sicrhau Chwarae Teg' yw'r un rwy'n meddwl amdano. Hefyd, cyfarfûm â Dr Nicola...
Hefin David: 6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth ar gyfer ysgolion bro? OQ59083
Hefin David: Rwy'n tynnu'n ôl yn ddiffuant ac yn ymddiheuro am ddefnyddio'r term hwnnw. Y bwriad, yng ngwres y ddadl, oedd gwneud pwynt gwleidyddol. Roedd yn wamal ac yn wir roedd yn amhriodol. Yn wir, o ystyried y ffaith y tynnwyd llun un o gynghorwyr Plaid Cymru yng Nghaerffili yn dal dryll, yn bygwth saethu Saeson, y gair y dylwn i fod wedi'i ddefnyddio oedd 'gwarthus'.
Hefin David: Mae yna lawer o anhawster, rwy'n credu, gydag agwedd Plaid Cymru tuag at hyn, ac mae'n anghyson â'r hyn maen nhw'n ei ddweud yn lleol.
Hefin David: Dyma beth wnaf fi, fe wnaf fi dynnu'r gair 'dibwrpas' yn ôl. Fyddwn i ddim eisiau bod yn destun pwynt o drefn yn nes ymlaen heddiw. Rwy'n tynnu'r gair 'dibwrpas' yn ôl ac rwy'n ymddiheuro am hynny. Yr hyn y dylwn i fod wedi'i ddweud oedd 'cyfleus yn wleidyddol', oherwydd yr hyn maen nhw'n ei wneud yw defnyddio'r cynnydd arfaethedig hwn yn y dreth gyngor, a fydd yn taro'r bobl dlotaf, er...
Hefin David: Rwy'n cytuno'n llwyr â diwygio'r dreth gyngor, ond, ar eiddo band B, y cynnydd arfaethedig yng Nghaerffili—y dreth gyngor isaf yng Ngwent gyfan, os nad Cymru gyfan—yw £1.91 yr wythnos. Mae'r cynnig mae'n ei gyflwyno ar gyfer cyfradd sylfaenol o dreth incwm gan yr un gweithwyr tua £2.50 yr wythnos. Felly, mewn gwirionedd, bydd canlyniadau ei gynnydd yn y dreth yn uwch i'r bobl hynny y...
Hefin David: Fe wna i geisio cadw hyn yn fyr, Dirprwy Lywydd. Efallai na fyddaf i'n llwyddo. Mae hon yn ddadl mewn dwy ran mewn gwirionedd, onid yw? Mae'n ddadl sy'n dod o ymatebion y pwyllgorau i'r gyllideb ddrafft, a'r pwyllgorau sy'n gwneud pwyntiau rhesymol, trawsbleidiol, sydd wedi'u gwneud yn dda. Pered oedd y cyntaf i siarad o'i bwyllgor, a chyfraniad trawiadol iawn oedd hwnnw. Rwy'n credu mai dyna...
Hefin David: A wnewch chi gymryd ymyriad?
Hefin David: O ystyried yr ansicrwydd ynghylch y datganiad diwethaf yna am annibyniaeth, onid yw hynny'n un o'r risgiau mwyaf y gallech chi ei gymryd gyda'r economi?