Buffy Williams: Diolch. Mae'r manteision y mae ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn eu rhoi i'n disgyblion a'n hathrawon yn enfawr. Rydyn ni'n ffodus yn y Rhondda bod gennym ni dair ysgol yr unfed ganrif ar hugain wedi'u cynllunio: un ar gyfer Llyn y Forwyn, a fydd yn cael ei chwblhau yn ystod y ddwy flynedd nesaf; un ar gyfer ysgol gynradd Penrhys; ac un ar gyfer Ysgol Gyfun Cwm Rhondda. Nawr, Gweinidog,...
Buffy Williams: 2. Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o'r effaith y mae costau byw cynyddol yn ei gael ar gynlluniau ar gyfer ysgolion yr 21ain ganrif? OQ59244
Buffy Williams: Diolch i'r deisebydd am ddod â'r mater hwn i'n sylw. Fel aelod o'r Pwyllgor Deisebau, rwyf wedi cael cyfle i glywed tystiolaeth gan nifer o randdeiliaid. Hoffwn ddiolch i bob un ohonynt, yn ogystal â'r clercod a fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor am sicrhau bod adroddiad 'Y Troad Terfynol?' yn cynnwys cydbwysedd o leisiau y rhai sydd o blaid a'r rhai sy'n gwrthwynebu rasio milgwn yng Nghymru....
Buffy Williams: Mae costau byw cynyddol wedi arwain at y nifer uchaf erioed o anifeiliaid anwes yn cael eu gadael. Mae'r Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid yn amcangyfrif bod anifail anwes yn cael ei adael bob 15 munud yn y DU. Mae'r Dogs Trust wedi cofnodi'r nifer uchaf erioed o alwadau gan berchnogion sydd am roi'r gorau i'w cŵn, gan nodi rhesymau ariannol, ac mae arolwg gan YouGov yn...
Buffy Williams: 6. A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa effaith y mae costau byw cynyddol wedi'i chael ar les anifeiliaid? OQ59111
Buffy Williams: Diolch, Gweinidog. Mae nyrsys yn y Rhondda yn cysylltu â mi bron yn ddyddiol ar ben eu tennyn. Nid yw'r galw dros fisoedd y gaeaf am ambiwlansys a damweiniau ac achosion brys wedi bod yn ddim byd tebyg i'r hyn y maen nhw wedi ei weld o'r blaen. Maen nhw'n gwybod, er mwyn cael cleifion sâl drwy'r drws, bod angen i gleifion sy'n barod i adael yr ysbyty wneud hynny cyn gynted ac mor ddiogel â...
Buffy Williams: 9. Pa effaith y mae'r fframwaith adrodd ar lwybrau gofal wedi'i chael yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg? OQ59150
Buffy Williams: Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi chwythwyr chwiban?
Buffy Williams: Diolch, Trefnydd. Mae'r strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, i mi, yn un o'r darnau pwysicaf o waith mae Llywodraeth Cymru wedi'i gyhoeddi'r tymor hwn, yn enwedig i fy nghymunedau yn y Rhondda. Yn syfrdanol, mae nifer y digwyddiadau o drais a cham-drin domestig sydd yn cael eu hadrodd i Heddlu De Cymru yn Rhondda, yn amlach na pheidio, ddwywaith cymaint â'r...
Buffy Williams: 1. Pa drafodaethau mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch y strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ers ei chyhoeddi'r llynedd? OQ59068
Buffy Williams: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i deuluoedd sy'n profi caledi oherwydd y cynnydd mewn costau byw?
Buffy Williams: Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith costau byw ar ffyniant teuluoedd?
Buffy Williams: Diolch i'r Pwyllgor Busnes am y brys, gan alluogi'r ddadl hon i ddigwydd yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Deisebau yr wythnos diwethaf. Gwn fod Tassia yma heddiw, a hoffwn ddiolch iddi a'i llongyfarch ar ei hymdrechion i godi ymwybyddiaeth o ganser metastatig y fron. Tassia, ni allaf ddechrau dychmygu pa mor anodd y mae'r ymgyrch hon wedi bod i chi. Rydych chi'n ysbrydoliaeth i ni i gyd, a bydd...
Buffy Williams: Bydd un o bob dau ohonom yn datblygu rhyw fath o ganser yn ystod ein hoes. Mae hyn yn anochel yn golygu y bydd pob un ohonom yn teimlo effeithiau canser, ond yn debyg iawn i lawer o afiechydon a chlefydau eraill, diolch i gyllid ymchwil arloesol, nid yw pob diagnosis o ganser yn dedfrydu i farwolaeth. Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol dros y degawdau, gyda chyfraddau goroesi'n dyblu dros y...
Buffy Williams: Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r deisebwyr am gyflwyno'r ddeiseb, a hoffwn ddiolch hefyd i'r Aelodau sydd wedi cyfrannu heddiw a'r Gweinidog am ei hateb. Nyrsys yw tua 40 y cant o weithwyr GIG Cymru; hwy yw calon ac enaid ein gwasanaeth iechyd gwladol. Pa blaid bynnag yr ydym yn perthyn iddi a pha gymuned bynnag yr ydym yn ei chynrychioli, yr hyn sydd wedi bod yn glir yn y ddadl hon yw ein bod i...
Buffy Williams: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, rwy'n falch iawn o agor y drafodaeth ar ddeiseb P-06-1276, 'Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016'. Mae testun y ddeiseb yn dweud: 'Mae nyrsys ledled Cymru yn brin o 1,719 o aelodau staff medrus iawn sy'n achub bywydau. Mae hyn yn golygu bod staff nyrsio yn rhoi 34,284 o oriau ychwanegol i GIG Cymru bob wythnos –...
Buffy Williams: Diolch, Weinidog. Dros doriad yr haf, bûm yn gweithio gyda'r tîm yng Nghanolfan Pentre i sefydlu siop arbennig i gefnogi trigolion ledled Rhondda drwy'r argyfwng costau byw. Mae wedi bod yn galonogol clywed bod y cymorth sydd wedi ei roi gan Lywodraeth Cymru drwy awdurdodau lleol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i deuluoedd pan fyddant yn ymweld â'r siop. Rydym wedi clywed straeon yn y...
Buffy Williams: 7. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'i Gweinidogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU ynglŷn â chymorth costau byw i awdurdodau lleol? OQ58420
Buffy Williams: Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag elusennau, grwpiau cymunedol a'r sector gwirfoddol ledled Cymru ynglŷn â'r argyfwng costau byw?
Buffy Williams: Diolch i staff y Senedd am ganiatáu i gynnig adalw heddiw ddigwydd. Mae hi'n anodd dod o hyd i eiriau sy'n deilwng o nodi'r achlysur trist hwn. Er ein bod ni'n gwybod y byddai'r diwrnod hwn yn dod, nid yw unrhyw baratoad yn ddigonol. Mae crisialu 70 mlynedd o ymroddiad, parch a defosiwn diwyro i deyrnas a'i phobl yn dasg amhosibl. Heb ei geni i'r orsedd, y hi oedd y Frenhines amhosibl; nawr,...