Mawrth, 23 Chwefror 2021
Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da, a chroeso i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd...
Yr eitem gyntaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Vikki Howells.
1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella mynediad at ofal iechyd meddwl brys? OQ56338
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ailagor ysgolion? OQ56303
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
3. Pa gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i leihau effaith pandemig COVID-19 ar fenywod yn y gweithle? OQ56335
4. Pa gymorth ariannol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddarparu i yrwyr tacsis i'w helpu drwy'r pandemig? OQ56337
5. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog mwy o fenywod a merched i astudio a dilyn gyrfaoedd mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg? OQ56339
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflwyno'r brechlyn yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ56315
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i blant a phobl ifanc sy'n dysgu gartref? OQ56340
8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y defnydd o'r iaith Gymraeg yng ngharchar Berwyn yn Wrecsam? OQ56309
Yr eitem nesaf, felly, yw'r dataganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny. Rebecca Evans.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y wybodaeth ddiweddaraf am frechiadau COVID-19. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad. Vaughan Gething.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ar y genhadaeth o ran cadernid ac ailadeiladu economaidd. Mi fyddaf i'n trosglwyddo'r Gadair nawr i'r Dirprwy...
Mae eitem 5 ar ein hagenda yn ddatganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar y rhaglen ddatblygu gwledig ddomestig yn y dyfodol. Galwaf ar Lesley Griffiths, Gweinidog yr...
Felly, awn at y datganiad ar ddiwygio cyllid myfyrwyr. Y Gweinidog Addysg i wneud y datganiad hwnnw, Kirsty Williams.
Mae eitem 7 ar ein hagenda yn ddatganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar yr economi sylfaenol. Galwaf ar Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth.
Eitem 8 ar yr agenda yw Rheoliadau Lefelau Staff Nyrsio (Estyn Sefyllfaoedd) (Cymru) 2021, a galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y cynnig. Vaughan Gething.
Eitem 9 ar ein hagenda y prynhawn yma yw Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Diwygio) a Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Adroddiadau ar Sefydlogrwydd y Farchnad) (Cymru) 2021. Galwaf ar y Dirprwy...
Eitem 10 ar yr agenda yw Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio) (Cymru) (Coronafeirws) 2021, a galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig—Julie James.
Eitem 11 ar ein hagenda yw'r cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru), a galwaf ar y Gweinidog Addysg i gynnig y cynnig—Kirsty Williams.
Symudwn ymlaen yn awr at eitem 12 ar yr agenda, sef dynodi cydsyniad Ei Mawrhydi i'r Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru), a galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James.
Eitem 13 ar ein hagenda yw'r ddadl ar Gyfnod 4 y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru), a galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig—Julie James.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Yr unig bleidlais sydd o'n blaenau ni heddiw yw'r bleidlais yna ar ddadl Cyfnod 4 y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru). Dwi'n galw am bleidlais ar y...
Pa gymorth ariannol ychwanegol y bydd Llywodraeth Cymru yn ei roi i fusnesau yn Sir Benfro yn ystod y pandemig?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia