1. 1. Ethol Llywydd o dan Reol Sefydlog 6

Part of the debate – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 11 Mai 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Plaid Cymru 1:33, 11 Mai 2016

Diolch yn fawr, Lywydd. Cryfhau cyfansoddiad Cymru yw prif bleser fy mywyd i wedi bod. Ac mae’r cyfle, os annisgwyl, i barhau â’r gwaith yma, drwy lywyddu dros y pumed Cynulliad, yn un rwy’n meddwl sy’n allweddol. Oherwydd, dyma’r Cynulliad a fydd yn symud y Senedd hon o fod yn Senedd gymharol is-raddol o fewn y Deyrnas Unedig i fod yn bartner cyfartal. Dyma’r Senedd ble bydd y cyfrifoldeb dros ein holl weithdrefnau seneddol yn cael ei ddatganoli i ni—gobeithio yn fuan, ar ôl yr holl arafwch sydd wedi bod yn cytuno Bil Cymru, ac af i ddim i ddadlau ar bwy mae’r bai ar un ochr na’r llall mewn araith fel hon.

Yn ogystal â hynny, fe fydd gyda ni’r cyfrifoldeb dros ein cyfundrefn etholiadol. Ac mae’n ymddangos i mi, ar ôl bod mewn llawer o fythau pleidleisio, fel ymgeisydd dros etholaeth, fod yna achos inni edrych unwaith eto—am y tro cyntaf o’n safbwynt ni’n hunain fel corff—ar y drefn bleidleisio a cheisio gweld a oes yna drefn fwy cyfranogol mewn gwirionedd a mwy democrataidd y gallem ni ei sefydlu.

Yr her arall, wrth gwrs, yw sicrhau bod y Senedd hon yn Senedd sydd yn gweithio yn effeithlon. Mae’n rhaid imi ddweud, ar ôl treulio amser yn y gadair ac amser fel Aelod unigol a Chadeirydd pwyllgor, nad ydym ni eto wedi datblygu’r cydbwysedd aeddfed rhwng craffu ar y Llywodraeth a chael y busnes drwodd. Mae’r ddwy agwedd yna ar rôl senedd yr un mor bwysig er mwyn bod yn senedd effeithlon.

Mi fydd hyn hefyd yn gyfnod pryd bydd y cyfrifoldeb arnom ni, mae’n bur debyg, o benodi prif weithredwr newydd i’r sefydliad yma, ac mae hynny’n gyfle inni nid yn unig i ddiolch i’r prif weithredwr presennol, ond i ddiolch iddi am yr ysbrydoliaeth sydd wedi’i gosod i staff o safon uchel yn y lle hwn. Mae nifer ohonoch chi a oedd yn gyn-Aelodau, fel finnau, mewn lle arall, wedi dweud wrthyf mor hapus ydych chi i weld safon broffesiynol y gwaith sy’n cael ei wneud yma. Mae gen i ymrwymiad llwyr i sicrhau bod y rhai sy’n gweithio i ni yn cael y gydnabyddiaeth briodol. Diolch yn fawr i chi.