Part of the debate – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 11 Mai 2016.
Fe symudwn ni nawr at ethol y Dirprwy Lywydd. Yn unol â Rheol Sefydlog 6.12, hoffwn atgoffa Aelodau mai dim ond os yw enwebiad o grŵp gwleidyddol gwahanol i fy un i ac o grŵp â rôl Weithredol y bydd enwebiadau ar gyfer Dirprwy Lywydd yn ddilys yn y lle cyntaf. Fodd bynnag, gellir datgymhwyso’r rheol hon gyda chefnogaeth dwy ran o dair o’r Aelodau unwaith y bydd yr enwebiadau yn hysbys. A oes gennym Aelod o grŵp gwleidyddol gwahanol—? A oes yna enwebiad ar gyfer y Dirprwy Lywydd?