Part of the debate – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 11 Mai 2016.
Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf fi yn gyntaf eich llongyfarch ar eich ethol i swydd y Llywydd, ac ychwanegu hefyd fy ngwerthfawrogiad o waith Rosemary Butler, y cyn-Lywydd? Credaf y byddai pawb yn y Siambr hon yn cytuno ei bod wedi gwneud llawer iawn o waith da dros y pum mlynedd flaenorol ac yn esiampl dda iawn i'w dilyn.
I’r un perwyl, a gaf fi ddweud hefyd y bydd yn her fawr, os dof yn Ddirprwy Lywydd, i ddilyn y rôl a osodwyd ac a gyflawnwyd gan David Melding? Unwaith eto, Lywydd, credaf y byddai pawb yn y Siambr hon yn cytuno ei fod wedi cyflawni ei ddyletswyddau fel Dirprwy— [Cymeradwyaeth.]—cyflawni ei rôl fel Dirprwy yn anrhydeddus iawn.
Lywydd, mae llawer ohonom wedi bod ar daith hir gyda datganoli. Rwyf wedi bod yma ers y dechrau yn 1999 a bu’n fraint aruthrol gwylio datganoli’n tyfu a datblygu a’r sefydliad hwn yn tyfu a datblygu—yn datblygu ei bwerau, yn datblygu ei rôl a gwella’i enw da ymhlith pobl Cymru. Yn y dyfodol, yn ystod y pum mlynedd nesaf, fe welwn gynnydd pellach yn y pwerau hynny a gwella enw da Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymhellach, gobeithio. Rwy'n credu ei bod yn adeg gyffrous iawn gyda Deddf Cymru a’r trefniadau etholiadol sydd i'w penderfynu yma yn cynnig posibiliadau newydd o ran y ffordd rydym yn trefnu ein hunain ac yn ymwneud â phobl Cymru.
Pe bawn yn dod yn Ddirprwy Lywydd, byddwn yn awyddus iawn i chwarae rôl yn datblygu’r gwaith hynod bwysig hwn. Credaf fod gennyf brofiad pwysig, o fod wedi bod yma ers 1999 a hefyd o fod wedi bod yn arweinydd y rhaglen ddeddfwriaethol ac yn Gwnsler Cyffredinol, yn ogystal ag Aelod o’r meinciau cefn yn fwy diweddar wrth gwrs. Felly, rwy’n meddwl bod gennyf lawer iawn o brofiad perthnasol a chredaf hefyd fod gennyf y gallu i gyflawni'r rôl hon yn effeithiol.
Lywydd, a gaf fi ddweud yn olaf ei bod hi’n amlwg yn bwysig iawn sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng y Llywodraeth a'r gwrthbleidiau ac yn fy marn i, yn fwy hanfodol i sicrhau bod hawliau Aelodau’r meinciau cefn nid yn unig yn cael eu gwarchod, ond yn cael eu gwella? Felly, yr hyn y byddwn yn ei ddweud i gloi yw hyn; pe bawn yn dod yn Ddirprwy Lywydd, fy mlaenoriaeth bennaf un fyddai bod yn ddiduedd ac yn deg â phawb, a gofynnaf am eich cefnogaeth ar y sail honno.