3. 3. Enwebu Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 11 Mai 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:01, 11 Mai 2016

Rydym yn symud ymlaen felly at y busnes nesaf ar yr agenda, sef i enwebu’r Prif Weinidog. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.11, y bwriad yw dwyn ymlaen enwebiadau ar gyfer y Prif Weinidog. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os na, yna fe gymerwn ni yr enwebiadau ar gyfer y Prif Weinidog. A gaf i ofyn felly a oes yna unrhyw enwebiadau ar gyfer enwebu’r Prif Weinidog?