1. 1. Enwebu Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8: Parhad

Part of the debate – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 18 Mai 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:30, 18 Mai 2016

Lywydd, gyda’ch caniatâd, wythnos yn ôl, mi enwebais i arweinydd Plaid Cymru ar gyfer swydd Prif Weinidog Cymru. Heddiw, ar ran y prif wrthblaid, ac ar ôl llwyddo i ddangos i’r blaid fwyaf yma yn y Cynulliad Cenedlaethol nad oes ganddyn nhw fwyafrif, a bod angen adlewyrchu ar hynny, rydw i yn tynnu enwebiad Leanne Wood yn ôl.