1. 1. Enwebu Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8: Parhad

Part of the debate – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 18 Mai 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:42, 18 Mai 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Nid yw hyn heddiw’n ymwneud â chlymbleidio. Pleidlais untro yw hon heddiw i ganiatáu i enwebiad Llafur basio. Os yw’r blaid honno’n credu bod eu bwlio yr wythnos diwethaf yn atal Plaid Cymru rhag pleidleisio mewn ffordd debyg yn y dyfodol, i’ch dwyn i gyfrif, yna meddyliwch eto. Nid yw’n ddrwg gennyf am yr hyn a ddigwyddodd yr wythnos diwethaf a byddaf yn ei wneud eto os oes rhaid er mwyn gwneud i Lafur sylweddoli eu bod yn Llywodraeth leiafrifol.

Yr hyn a welsom yr wythnos diwethaf gan y blaid honno oedd haerllugrwydd a hunanfoddhauster, a’r hyn a arddangoswyd oedd ymdeimlad o hawl. Digwyddodd y bleidlais honno am eu bod wedi gwrthod oedi’r trafodion am un wythnos yn unig er mwyn gallu cynnal trafodaethau ystyrlon. Wel, fe gawsom ein hwythnos i siarad, ond bu’n rhaid cael peth drama i gyrraedd yno.

Ni fyddwn yn anghofio’r modd y cawsom ein pardduo gan Lafur yr wythnos diwethaf. Roedd yr Aelodau Seneddol, Aelodau’r Cynulliad a’r cyrff cysylltiedig â Llafur a geisiodd awgrymu ein bod wedi dod i gytundeb â’r asgell dde a rhai pellach i’r dde yn anghywir. Mae ethol Prif Weinidog Cymru heddiw yn profi nad oedd unrhyw gytundeb ac rwy’n edrych ymlaen at eich gweld yn tynnu eich geiriau yn ôl. A ydych yn ddigon mawr i gyfaddef eich bod yn anghywir?

Nid yw’r trefniant rydym wedi’i gyrraedd heddiw yn golygu bod Plaid Cymru yn cefnogi’r Llywodraeth leiafrifol hon na’i harweinydd. Rydym yn caniatáu iddo gael ei ethol yn Brif Weinidog, ond nid cefnogaeth yw hynny. Ni chawsom amser i ystyried a thrafod y materion mwyaf anodd. Ni chafwyd unrhyw gynnydd ar feysydd polisi fel llwybr du neu lwybr glas yr M4, mesurau manwl i achub y diwydiant dur, pleidleisio teg na chyllid myfyriwr, er enghraifft. Byddwn wedi hoffi pe baem wedi gallu sicrhau ymrwymiad tuag at ganolfan arloesi dur, ysgol feddygol ym Mangor, ysgol filfeddygol yn Aberystwyth a choleg sgiliau adeiladu gwyrdd yn y Cymoedd. Unwaith eto, nid oedd y cyfyngiadau amser yn caniatáu i ni ystyried cynigion manwl ynghylch y prosiectau hynny.

Fel y brif wrthblaid, byddwn yn dychwelyd at y materion hynny drwy’r gyllideb a’r cyfryngau eraill sydd ar gael i ni. Gofynnaf i’r Prif Weinidog a’i blaid roi amser rhwng nawr a phleidlais y gyllideb gyntaf i ystyried sut y gellir datrys y blaenoriaethau hyn i ni lle y ceir anghytuno rhwng ein pleidiau.

Yn ystod etholiadau diweddar y Cynulliad, roedd Plaid Cymru yn sefyll dros newid: newid a fyddai’n sicrhau nid yn unig cyfansoddiad gwleidyddol newydd ar gyfer ein gwlad, ond newid trawsffurfiol a fyddai’n sicrhau gwelliannau pendant i gymunedau ym mhob rhan o’r wlad hon. Mae Plaid Cymru wedi cytuno i dynnu fy enw yn ôl yn awr a chaniatáu i enwebiad Llafur gael ei basio heddiw yn gyfnewid am nifer o gonsesiynau i bobl. Nid oes gennym ddiddordeb mewn ceir gweinidogol neu seddau wrth fwrdd Cabinet rhywun arall. Yr hyn sydd o ddiddordeb i ni yw gweithredu ein rhaglen a gynlluniwyd i wella bywydau pobl. Rydym wedi sicrhau dechrau’r diwedd ar y loteri cod post ar gyfer triniaethau iechyd a meddyginiaethau newydd. Bydd camau gweithredu Plaid Cymru yn arwain at gomisiwn seilwaith cenedlaethol a fydd yn helpu i ailadeiladu ein heconomi. Bydd hefyd yn darparu modd i ni allu cefnogi’r diwydiant dur, drwy’r polisi caffael y buom yn dadlau’n gryf drosto yn ystod yr etholiad. Bydd gofal plant fforddiadwy ar gael i bawb o dair oed ymlaen, gan ddychwelyd yr hyn a dorrwyd i deuluoedd mewn llefydd fel y Rhondda, a bydd hyn yn digwydd am fod Plaid Cymru wedi’i sicrhau. Bydd yna leoedd prentisiaeth ychwanegol.

Cyflawnwyd yr enillion polisi hyn, ymhlith eraill, ochr yn ochr â’n pwyslais ar sefydlu diwylliant gwleidyddol newydd. O bersbectif Plaid Cymru, mae’r cytundeb hwn yn dangos ein bod yn bwriadu bod yn wrthblaid sy’n glir ynglŷn â’n nodau a’n blaenoriaethau. Dengys digwyddiadau yr wythnos diwethaf ein bod yn barod i wneud ein gorau glas os a phan fo’i angen. Nid yw Plaid Cymru erioed wedi, ac nid yw byth yn mynd i ystyried dod i gytundeb a fyddai’n caniatáu i UKIP ddod i rym. O dan fy arweinyddiaeth i, mae’r un peth yn wir am y Torïaid. Rwyf bob amser wedi dweud hynny, ac nid yw’r safbwynt hwnnw wedi newid ar unrhyw adeg.