Part of the debate – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 18 Mai 2016.
Diolch i chi, Lywydd, ac os caf ddechrau, yn gyntaf oll, drwy eich llongyfarch chi ar ymgymryd â rôl y Llywydd, ac yn wir, y Dirprwy Lywydd, Ann Jones, ar ennill y bleidlais yr wythnos diwethaf. Rwy’n siŵr ein bod mewn dwylo diogel—dwylo da—ac yn y pen draw, fe fyddwch yn ffurfio eich ffordd unigryw eich hun o gynnal materion y Cynulliad ac yn sefyll dros Aelodau’r meinciau cefn fel y dywedodd y ddwy ohonoch yn eich areithiau derbyn, ac yn wir, dros holl Aelodau’r Cynulliad er mwyn gwneud y sefydliad hwn yr esiampl rydym i gyd yn awyddus iddo fod. Yn wir, carwn hefyd gefnogi’r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog am yr ymgeiswyr eraill a ymgeisiodd am rôl y Llywydd a rôl y Dirprwy Lywydd, yn yr ystyr fod y ddau ohonynt yn hyrwyddwyr y sefydliad hwn. Mae Dafydd Elis-Thomas yn y tair blynedd a dreuliodd yn y Gadair, a John Griffiths, sydd wedi gwasanaethu yn y Llywodraeth yn ei dro, ac o’i amser ar y meinciau cefn, yn gwybod yn union beth sy’n ofynnol o’r swyddi y mae’r ddwy ohonoch wedi’u cael, ac rwy’n gwybod y byddem wedi cael ymgeiswyr yr un mor dda. Ond llefarodd democratiaeth, a dymunaf yn dda i’r ddwy ohonoch yn eich ymdrechion dros y pum mlynedd nesaf.
Rwy’n eich llongyfarch chi, Brif Weinidog, ar gael eich gwneud yn Brif Weinidog Cymru heddiw. Rwy’n cydnabod y pwynt a wnaethoch yn benodol nad oes gennych fwyafrif yma, yn amlwg, ac rwy’n meddwl ei bod yn gymwys iawn eich bod wedi gwneud y pwynt hwnnw, ac roedd ymdrechion yr wythnos diwethaf yn y Siambr hon yn dangos hynny’n glir. A bod yn onest gyda chi, rhaid i mi ddweud nad wyf erioed wedi gweld mainc gefn yn edrych mor ddigalon, yma heddiw, yn enwedig pan oedd arweinydd yr wrthblaid yn siarad. Rwy’n credu bod llawer ohonynt yn meddwl, ‘Beth sydd wedi digwydd dros y diwrnodau diwethaf?’, ond mae’n braf gweld fy mod wedi rhoi gwên ar wynebau rhai ohonynt yma heddiw. Ond mae’n bwysig eich bod yn awr, dros y 100 diwrnod nesaf, yn nodi’r hyn y mae eich Llywodraeth yn mynd i geisio ei gyflawni. Byddai’n llawer gwell gennyf fod wedi cael canlyniad gwahanol, ond rwy’n parchu’r etholwyr a’r hyn y penderfynasant ei wneud ar 5 Mai. Maent wedi eich dychwelyd, nid â mwyafrif, ond gyda’r nifer fwyaf o seddi yma ac yn y pen draw, eich hawl yw ffurfio Llywodraeth a gweld a allwch roi pecyn at ei gilydd sy’n gallu denu cefnogaeth y Siambr hon. Ar y meinciau yma, byddwn yn eich dwyn i gyfrif ar bob cam o’r ffordd, ond byddwn hefyd yn ceisio bod yn adeiladol yn y ffordd y byddwn yn ymgysylltu ac yn dadlau ar y pwyntiau sydd angen eu dwyn gerbron.
Wrth wrando ar yr hyn a ddywedodd arweinydd yr wrthblaid am droi’r gornel a chreu gwleidyddiaeth newydd, cafwyd y cyfle hwnnw yr wythnos diwethaf, ond unwaith eto, yn anffodus, dyma hanes yn ailadrodd eto gyda Phlaid Cymru newydd ochri â’r Blaid Lafur, a heb ddewis ceisio datblygu ffurf newydd ar wleidyddiaeth yma yng Nghymru.
Mae rhai gofynion allweddol yn eich wynebu yn y 100 diwrnod cyntaf, Brif Weinidog, yn enwedig mewn perthynas â rhai o’r meysydd polisi allweddol. Mae prinder staff yn y GIG yn arbennig yn rhywbeth y mae angen i’r Llywodraeth ei nodi. Fe gyfeirioch at hyn yn eich datganiad. Gallaf gofio, yn y Cynulliad diwethaf, pan gyflwynwyd menter gan y Llywodraeth Lafur flaenorol i ymdrin â phrinder staff, a dyma ni, bedair blynedd yn ddiweddarach gyda rhai o’r problemau—wel, llawer o’r problemau—yn dal i wynebu’r GIG, fel y nodwyd yng Nghyffordd Llandudno yr wythnos diwethaf, ond ar draws arfordir gogledd Cymru, lle mae meddygfeydd meddygon teulu yn dychwelyd eu contract i Betsi Cadwaladr ac mae perygl gwirioneddol y gallai rhai cleifion fod heb ddarpariaeth meddygfa. Felly, mae’n hanfodol eich bod yn cyflwyno strategaeth i ddweud sut rydych yn mynd i ymdrin â’r sefyllfaoedd hyn sy’n datblygu ar draws y GIG yng Nghymru yn ei gyfanrwydd.
Rwyf hefyd yn credu ei bod yn ddyletswydd arnoch i nodi’n union beth yw eich syniadau ynglŷn â llywodraeth leol, o ystyried bod eich awydd i gael gwared ar lawer o awdurdodau lleol ledled Cymru yn elfen mor ganolog o becyn diwygio eich Llywodraeth flaenorol. Gwyddom fod yr etholiadau hynny’n ein hwynebu y flwyddyn nesaf, ac rwy’n credu, ar y cyfle cyntaf, rwy’n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn cyflwyno datganiad yn nodi’n glir ac yn egluro meddylfryd y Llywodraeth newydd hon ar fformat a dull o fapio llywodraeth leol yn y dyfodol.
Hefyd, ar brosiectau seilwaith—prosiectau seilwaith mawr—mae’n bwysig cyflwyno rhywfaint o eglurder ynghylch y ddadl ar lwybr lliniaru’r M4—y llwybr du neu las neu ddim llwybr o gwbl. Dyma gyfle yn awr i Lywodraeth newydd fapio a rhoi’r golau gwyrdd i’r opsiwn y mae’n ei ddewis. Rydych chi fel Prif Weinidog Cymru wedi rhoi llawer iawn o gefnogaeth bersonol i’r llwybr du, ac rwy’n credu ei bod yn ddyletswydd arnoch yn awr i ddod ymlaen ac esbonio’n glir iawn sut y bydd eich Llywodraeth newydd yn bwrw ymlaen â’r cynigion hynny o amgylch Casnewydd, os ydynt yn mynd i gael eu datblygu o gwbl.
Yn yr ychydig wythnosau nesaf, ac yn ystod yr wythnos nesaf yn ddelfrydol, rwy’n gobeithio hefyd y gellid cyflwyno datganiad i egluro’n union beth yw’r trefniadau rhyngoch chi a Phlaid Cymru. Fe dynnoch sylw at rai o’r meysydd lle y byddai cydweithio yn gweithio. Yn benodol, o ran diddordeb—fe fyddaf yn glir—hoffwn eglurder ynglŷn â sut y bydd y pwyllgorau a sefydlwyd gennych yn gweithio a pha effaith a gaiff y pwyllgorau hynny ar bolisi Llywodraeth yn benodol, yn enwedig am mai chi sy’n gyfrifol am gyflawni’r polisi hwnnw. Neu ai cyfeirbwyntiau’n unig fydd y rhain? Felly, rwy’n gobeithio y byddwch yn cyflwyno datganiad fel mater o frys i ni allu gofyn y cwestiynau i chi er mwyn ceisio eglurder o ran sut y gallai’r cytundeb hwnnw ddatblygu. A oes terfyn amser iddo? Pwy fydd y cynrychiolwyr? Fe ddywedoch y bydd yn Weinidog o’ch plaid chi—. A fydd yn Aelod etholedig o Blaid Cymru neu ai wedi’i benodi gan Blaid Cymru yn unig? Mae’r rhain i gyd yn feysydd atebolrwydd a chan symud i faes atebolrwydd, gyda’r Bil Cymru a gyhoeddwyd yn Araith y Frenhines heddiw, mae’n hanfodol ein bod yn gweithio gyda’n gilydd i gyflwyno Bil Cymru a fydd mewn gwirionedd yn cyflwyno’r cyfrifoldebau yn ôl i’r sefydliad hwn, i’w wneud yn fwy atebol, i atgyfnerthu democratiaeth Cymru ac i ennyn hyder pobl Cymru yn nhaith Bil Cymru drwy San Steffan, ond yn bwysig, y rhan a fydd gan y Llywydd yn gwneud yn siŵr fod y trafodaethau hynny’n glir a chadarn ac yn y pen draw yn arwain at y canlyniad y byddem i gyd yn ei geisio ym mhumed tymor y Cynulliad.
Felly, rwy’n dymuno’n dda i chi, Brif Weinidog, ond mae llawer iawn o heriau o’n blaenau. Rwyf fi, fel chithau, yn credu bod pobl Cymru yr un mor entrepreneuraidd ac mor dalentog â phobl yn unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig—yn wir, yn unrhyw le arall yn y byd—. Yr un mater rwy’n meddwl y gallwn gydweithio’n eithaf cydweithredol arno yw’r argyfwng dur sydd yn amlwg wedi mynd â chymaint o amser, ac mae’n iawn ei fod wedi cymryd cymaint o amser, dros yr wythnosau a’r misoedd diwethaf, oherwydd rhaid i ni weithio ar draws Llywodraethau ac ar draws y pleidiau i sicrhau gwerthiant llwyddiannus asedau Tata Steel fel y gellir diogelu cymunedau, diogelu swyddi ac yn y pen draw, fel bod gennym gapasiti gwneud dur sicr yma i’r dyfodol, sy’n broffidiol a bod cymunedau ar hyd a lled Cymru yn buddsoddi yn hynny.
Felly, rwy’n eich llongyfarch, Brif Weinidog; dymunaf yn dda i chi, ond yn y pen draw, nid wyf yn dymuno gormod o dda i chi, oherwydd gwleidyddiaeth hyn i gyd. [Cymeradwyaeth.]