Part of the debate – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 18 Mai 2016.
Lywydd, fel fy rhagflaenwyr yn eu datganiadau y prynhawn yma, hoffwn eich llongyfarch ar ymgymryd â swydd y Llywydd. Wrth gwrs, eiliais eich gwrthwynebydd, Dafydd Elis-Thomas, ac fe darodd melltith Hamilton eto. Serch hynny rwy’n cymeradwyo dewis fy nghyd-Aelodau yn y Cynulliad hwn, a gallaf addo i chi, er gwaethaf y dechrau a wnaethom heddiw gyda’r pwynt o drefn gan fy nghyfaill anrhydeddus, Mark Reckless, nid ydym yn bwriadu bod yn ddylanwad aflonyddgar yn y Cynulliad hwn, ond yn hytrach, yn adeiladol iawn yn ein cyfraniadau iddo.
Mae UKIP, wrth gwrs, yn blaid freniniaethol, ond fe wnaethom wrthwynebu coroni Brenin Carwyn, am ein bod yn credu y dylid cynnal pleidlais. Ac rwy’n credu ei bod yn hanfodol—ac yn hyn o beth rwy’n meddwl bod gennym rywfaint yn gyffredin â Phlaid Cymru—fod Cymru’n cael ei llywodraethu nid gan blaid sy’n credu bod ganddi hawl i reoli drwy ryw fath o hawl ddwyfol, ac mae UKIP, fel gwrthblaid, yn bwriadu gwrthwynebu’r hyn sydd angen ei wrthwynebu.
Dywedodd y Prif Weinidog yn ei ddatganiad fod pobl Cymru wedi gofyn am Lywodraeth Lafur yng nghanlyniadau’r etholiad. Nawr, nid wyf yn gwybod a yw wedi edrych yn iawn ar y canlyniadau yng Nghymru ychydig ddyddiau’n ôl, ond 34.7 y cant o’r bleidlais yn unig a gafodd Llafur yn yr etholaethau a 31.5 y cant yn unig o’r bleidlais ar y rhestrau rhanbarthol. Felly, pleidleisiodd dwy ran o dair o bobl Cymru yn erbyn y Blaid Lafur yn etholiadau’r Cynulliad eleni. Felly, yn sicr nid yw hwnnw’n fandad i Lywodraeth Lafur, er gwaethaf diffyg cydbwysedd y seddi o’i gymharu â chanran y pleidleisiau, ac felly dylai fod yn gynhwysol, ac nid cynhwysol yn unig i’r graddau ei bod yn dod i gytundeb â Phlaid Cymru, ond hefyd i gynnwys pleidiau lleiafrifol eraill yn y lle hwn, nid yn lleiaf fy mhlaid fy hun, UKIP, gan fod gennym saith Aelod Cynulliad ac maent yn haeddu cael eu trin â pharch.
A dweud y gwir, yr hyn y pleidleisiodd Cymru drosto ychydig ddyddiau’n ôl oedd newid, nid y status quo, a dyna pam rwy’n gresynu at y rôl y mae Plaid Cymru wedi chwarae dros y dyddiau diwethaf. Mae Kirsty, hefyd, wedi llwyddo i gynnal y weinyddiaeth sigledig hon. Maent wedi llyffetheirio awydd pobl Cymru i greu newid. Ym Mrycheiniog a Maesyfed, pleidleisiodd 92 y cant o’r etholwyr yn erbyn Llafur ac eto, fe sicrhaodd hi fod y Prif Weinidog yn cadw ei le mewn gwirionedd. Yn y Rhondda, cafwyd canlyniad syfrdanol i Leanne Wood, wrth i gyfran Leighton Andrews o’r bleidlais yn yr etholiad cynt, sef 63 y cant, gael ei newid yn 36 y cant o’r bleidlais yn yr etholiad hwn. Yn sicr, nid oedd honno’n bleidlais o hyder yn y Blaid Lafur, ac rwy’n synnu, felly, ei bod hi mewn gwirionedd, ar ôl cael canlyniad syfrdanol yn y Rhondda, wedi bradychu lles y pleidleiswyr a’i rhoddodd lle y mae dros yr etholaeth honno a gwneud i’r gwrthwyneb i’r hyn roeddent ei eisiau.
Felly, rwy’n ofni bod y ddwy foneddiges hon newydd wneud eu hunain yn gywelyesau gwleidyddol yn harîm Carwyn. Am brofiad erchyll. Gadewch i ni ofyn i ni’n hunain pa wobr y maent wedi’i chael am fod mewn sefyllfa mor anffodus. Beth a gawsant yn wobr am aberthu eu rhinwedd wleidyddol? Mae Leanne Wood wedi siarad lawer gwaith am yr angen am wawr newydd yng ngwleidyddiaeth Cymru ac yn wir, roedd hynny’n bosibl ychydig ddyddiau’n ôl, wrth i ni feddwl y gallai’r gwrthbleidiau, gyda’i gilydd, orfodi bargen newydd, ond yn anffodus ni ddigwyddodd hynny. Yn hytrach na gwawr newydd, cawsom ddiffyg llwyr ar yr haul, oherwydd yn hytrach na bod penderfyniadau’n cael eu gwneud mewn tryloywder llwyr, mae gennym gyfres o bwyllgorau dirgel a ddaw at ei gilydd i daro bargeinion amheus y tu ôl i’r llenni—[Torri ar draws.] Dyma sut y mae pethau’n mynd i fod yn y dyfodol—taro bargeinion amheus i wahardd pleidiau lleiafrifol eraill yn y Siambr hon.
I’r graddau y gallwn— [Torri ar draws.]