Part of the debate – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 18 Mai 2016.
Wel, mae Leanne Wood wedi dweud na fyddai’n gweithio gydag UKIP mewn unrhyw amgylchiadau. Mae hynny’n ymddangos i mi’n sylw mor wrthwynebus fel y gellid yn hawdd ei ddisgrifio fel rhagfarn—ein bod, wyddoch chi, rywsut yn anghyffyrddadwy. [Torri ar draws.] Wel, nid yw 15 y cant o etholwyr Cymru yn credu ein bod yn anghyffyrddadwy, am eu bod wedi pleidleisio drosom, ac mae hynny’n sarhad, nid arnom ni, ond arnynt hwy.
Felly, yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf, byddwn hefyd yn taflu goleuni ar y meysydd y cyfeiriodd Andrew R.T. Davies atynt yn ei ddatganiad: ar y gwasanaeth iechyd, ar yr M4, ac yn arbennig, ar y diwydiant dur. Dyma lle y mae’r ddadl am yr UE yn dod i’r amlwg: mae’r Prif Weinidog a’r Blaid Lafur, yn ogystal â Phlaid Cymru, yn gwbl ymroddedig, wrth gwrs, i’r UE—heb sôn am y Democrat Rhyddfrydol sydd ar ôl—sy’n gwneud y Prif Weinidog yn gwbl ddiymadferth, ac mi dybiwn y byddai aelodau ei harem yn eithaf bodlon â hynny, ond nid yw Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd yn gallu gwneud fawr ddim i achub y diwydiant dur yn y wlad hon, am nad oes gennym unrhyw reolaeth dros brisiau ynni ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros ddur rhad o Tsieina yn cael ei ddadlwytho ar ein glannau. Dyna pam y mae adfer pwerau o Frwsel yn hanfodol, nid yn unig i Gymru, ond hefyd i’r Cynulliad hwn, ac yn union fel y credwn mewn datganoli pwerau o Frwsel i San Steffan ac o San Steffan i Gymru, byddai hynny’n cryfhau’r sefydliad hwn a dylem oll fod eisiau cael y pwerau hynny i ni allu eu defnyddio er lles gorau pobl Cymru.
Felly, rwy’n llongyfarch y Prif Weinidog, er na fyddwn wedi pleidleisio drosto, ar gael y swydd, a gallaf ei sicrhau y byddwn yn gwneud cyfraniad cadarnhaol, nid yn unig mewn dadleuon a thrafodaethau, ond hefyd tuag at ddatblygu polisïau sydd er lles holl bobl Cymru. [Cymeradwyaeth.]