Part of the debate – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 18 Mai 2016.
Yn ogystal â chwestiynau i’r Prif Weinidog, gobeithiaf yr wythnos nesaf y byddwn mewn sefyllfa yn y cyfarfod i ethol aelodau i’r Pwyllgor Busnes a dechrau’r drefn arferol o fusnes y Cyfarfod Llawn. Erbyn hynny, mae’n bosibl y bydd y Prif Weinidog hefyd wedi penodi Gweinidogion Cymru. Bydd yr Aelodau a’r cyhoedd yn cael gwybod am yr agenda yn ffurfiol yn y ffordd arferol, a daw hynny â thrafodion i ben am y prynhawn yma.