Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 24 Mai 2016.
Brif Weinidog, a allwch chi amlinellu’r pwysigrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei neilltuo hefyd i’r 11,000 o swyddi cynhyrchu dur eu hunain i gymunedau Cymru, ac nid lle mae’r safleoedd dur wedi’u lleoli yn unig, ond, er enghraifft, mewn cymunedau fel fy un i yn Islwyn, a sefydlwyd ar sail dur, a hefyd o ran galluoedd cynhyrchu sylfaenol o’r hyn sydd ar ôl yng Nghymru? Diolch.