Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 24 Mai 2016.
Wel, mae gennym ni £60 miliwn eisoes ar y bwrdd; mae hanner hwnnw’n fenthyciad masnachol, mae'r hanner arall ar ffurf arian grant. Rydym ni’n dal i edrych a oes mwy y gallem ni ei wneud o ran ardrethi busnes. Mae'n iawn i ddweud mai’r cyngor gwreiddiol oedd y gallem ni gynnig €200,000 dros dair blynedd. Rydym ni’n archwilio hynny unwaith eto i weld a oes ffordd y gallwn ni helpu ymhellach. Ond serch hynny, mae’r swm o arian sydd ar y bwrdd yn cynrychioli gwerth tua phedair blynedd o ardrethi busnes i Tata beth bynnag, a bydd yr arian hwnnw ar y bwrdd i unrhyw brynwr newydd.