Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 24 Mai 2016.
Brif Weinidog, rwy’n sylweddoli y bu’n rhaid i’r partïon dan sylw lofnodi cytundebau peidio â datgelu, sy'n cyfyngu ar y wybodaeth y gallwch chi ei rhoi, ond yn dilyn ymlaen o gwestiwn John Griffiths, a gaf i ofyn i chi os ydych chi wedi cael unrhyw drafodaethau penodol ar hyfywedd rhan Llanwern o weithrediad dur Cymru, sydd yn peri pryder uniongyrchol i’m hetholwyr? Rydym ni’n gwybod bod rhai cynigion i uwchraddio gwaith Port Talbot i ffwrnais arc, er enghraifft, a rhai cynigion eraill hefyd. A oes gennych chi unrhyw wybodaeth o ran cynigion moderneiddio i wneud gwaith dur Llanwern yn fwy hyfyw yn y dyfodol?