Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 24 Mai 2016.
Mae canser yn flaenoriaeth uchel i ni. Mae'r achos busnes £200 miliwn i weddnewid gwasanaethau canser ar draws y de-ddwyrain yn cael ei ddatblygu, ac, wrth gwrs, disgwylir i’r achos busnes amlinellol ar gyfer ysbyty canser newydd yn Felindre—wrth gwrs, yn etholaeth yr Aelod—gael ei gyflwyno erbyn diwedd y flwyddyn hon.