Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 24 Mai 2016.
Un o’r meysydd lle mae Cymru ar ei hôl hi tipyn bach o safbwynt ymdrin â chanser yw’r amser i ddiagnosis. Mae nifer o elusennau canser yn ystod yr ymgyrch yr ydym ni i gyd wedi bod yn rhan ohoni hi wedi cysylltu â ni fel ymgeiswyr i ofyn beth y gallem ni ei wneud yn y Cynulliad hwn i wella’r amser i ddiagnosis. Roedd gan Blaid Cymru gynllun, er enghraifft, ar gyfer diagnosis o fewn 28 diwrnod. Beth ydych chi’n mynd i’w wneud fel Llywodraeth i wella’r sefyllfa yng Nghymru?