Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 24 Mai 2016.
Brif Weinidog, mae gan Gymru rai o'r cyfraddau goroesi canser isaf yn y byd datblygedig, a'r prif reswm yw cyfraddau gwael o ran canfod ac ymyrraeth gynnar. Sut wnaiff eich Llywodraeth wella diagnosis a thriniaeth, ac a ydych chi’n cytuno â fy mhlaid i y dylai pawb sy’n cael diagnosis o ganser fod â chynllun gofal ysgrifenedig llawn?