Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 24 Mai 2016.
Dywedodd Sefydliad Iechyd y Byd fod llygredd aer trefol yn parhau i gynyddu ar raddfa frawychus, a rhestrodd Casnewydd ymhlith y pump uchaf yng Nghymru. Gan fod llygredd aer yn fater iechyd cyhoeddus, rydym ni’n gwybod y bydd cynnydd mawr i lygredd aer yn ystod cyfnodau o dagfeydd traffig. A all y Prif Weinidog roi sicrwydd i’m hetholwyr y bydd mesurau effeithiol yn cael eu cymryd i leddfu tagfeydd sy'n dod drwy Gasnewydd ar yr M4?