<p>Diwygio Llywodraeth Leol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:29 pm ar 8 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 1:29, 8 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Dyna ateb calonogol iawn, Brif Weinidog. Rydych yn ddyn craff ac rydych yn siŵr o fod wedi sylwi fy mod wedi bod yn gwrthwynebu’r cynlluniau i ddiddymu Sir Fynwy fel rhan o’r ad-drefnu llywodraeth leol a argymhellwyd gan Lywodraeth ddiwethaf Cymru. Nawr bod y Gweinidog sy’n gyfrifol am y cynlluniau hyn wedi symud ymlaen at bethau gwell, onid yw’n adeg dda i fynd yn ôl i’r cychwyn a meddwl am gynllun y gallwn ni, gynghorwyr, a’r cyhoedd ei gefnogi? Rwy’n fwy na pharod i gyfarfod â chi am beint rywbryd i drafod hyn. [Chwerthin.]