Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 8 Mehefin 2016.
Brif Weinidog, nododd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ei adroddiad, ‘Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2015’, y llynedd, fod Cymru, ers i Lywodraeth y DU osod ei rhaglen galedi yn adolygiad o wariant 2010, wedi gorfod rheoli toriad o £1.2 miliwn—mae’n ddrwg gennyf, dywedaf hynny eto, toriad o £1.2 biliwn yn y cyllid. Er gwaethaf toriadau Torïaidd llym o’r fath, mae awdurdodau lleol a chynghorau Cymru wedi parhau—[Torri ar draws.] Lywydd, os caf, maent wedi parhau i sefyll dros gymunedau Cymru. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cryfder ei argyhoeddiad a’i ymrwymiad i flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi darpariaeth effeithiol ac effeithlon llywodraeth leol o wasanaethau cyhoeddus?