Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 8 Mehefin 2016.
Gallaf, wrth gwrs. Gwn fod Syr Terry Matthews a’r bwrdd wedi datblygu cynnig cychwynnol ar gyfer bargen ddinesig, sydd wedi’i chyflwyno i ni a Llywodraeth y DU. Mae’n ceisio swm o tua £500 miliwn dros 20 mlynedd, ac yn wir, mae’r cynnig yn amlinellu grym trawsnewidiol cysylltedd digidol i gyflymu twf yn y rhanbarth, a ledled Cymru ac yn wir, gweddill y DU. Felly, mae’r cyflwyniad hwnnw wedi’i wneud. Rydym yn awr, wrth gwrs, yn dymuno symud ymlaen gyda bargen ddinesig sy’n debyg i’r un y cytunwyd arni ar gyfer y prifddinas-ranbarth.