<p>Dinas-ranbarth Bae Abertawe</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 8 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:36, 8 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, byddai angen hynny beth bynnag. Mae dinas-ranbarth bae Abertawe yn croesi ffiniau. Rydym yn gwybod nad yw ffiniau gwleidyddol yn cyd-fynd â ffiniau economaidd. Dyna pam y mae’r fargen ddinesig yn y prifddinas-ranbarth yn cynnwys 10 awdurdod lleol, gan adlewyrchu, wrth gwrs, y rhanbarth economaidd, a chan adlewyrchu’r angen i awdurdodau lleol weithio gyda’i gilydd i gyflawni ffyniant ar gyfer eu holl ddinasyddion.