Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 8 Mehefin 2016.
Mae’r rhain yn faterion sy’n cael eu harchwilio wrth i ni geisio symud y polisi yn ei flaen. Un o’r pethau rydym yn ymfalchïo ynddynt yw’r ffaith ein bod wedi adeiladu cymaint o ysgolion newydd ledled Cymru, ein bod wedi adnewyddu cynifer o ysgolion ledled Cymru ac y bydd rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn parhau. Yn gynyddol ledled Cymru, rydym yn gweld mwy a mwy o blant, a mwy a mwy o athrawon, yn cael eu dysgu mewn cyfleusterau sy’n briodol ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, ar ôl cymaint o flynyddoedd yn y 1980au a’r 1990au o ddadfuddsoddi a thanfuddsoddi yn ein hysgolion.