<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 8 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:40, 8 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, nid wyf yn cytuno ei fod wedi’i roi i’r naill ochr. Ceir cydnabyddiaeth gyffredinol fod angen ateb i’r problemau sy’n ymwneud â thwnelau Bryn-glas. Mae’r broses o ran y llwybr du’n parhau, ond mae angen ymchwiliad priodol i hynny—mae angen ei archwilio’n briodol. Rwy’n awyddus i opsiynau eraill gael eu harchwilio hefyd fel rhan o’r broses gyhoeddus honno. Rwyf o blaid y tryloywder y byddai hynny’n ei ddarparu.

O ran tollau’r Hafren, nid ni sy’n eu rheoli. Rydym yn credu mai ni ddylai eu rheoli a phe baem yn eu rheoli, byddem yn diddymu’r tollau.