Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 8 Mehefin 2016.
Rwy’n derbyn rhesymeg hynny. Rwyf fi ond eisiau dweud wrth y Prif Weinidog ein bod wedi dod i’r lle hwn i fod yn adeiladol yn yr wrthblaid ac rydym am chwarae’r math o rôl y mae Plaid Cymru’n honni yn awr ei bod yn ei chwarae mewn perthynas â datblygu polisi Llywodraeth, ac felly rwyf eisiau dweud, o ran y llwybr du neu’r llwybr glas, fod fy mhlaid yn barod i gynnal trafodaethau gyda’r Llywodraeth. Fel y dywedais yn gynharach, rydym yn credu bod y llwybr du yn well na dim llwybr ac felly, os yw hwn yn angenrheidiol er mwyn dadflocio’r dagfa, yna rydym yn barod i chwarae ein rhan ynddo.