Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 8 Mehefin 2016.
Diolch, Brif Weinidog. Nawr, mae llawer o’r ddadl hyd yn hyn wedi ymwneud mwy â chodi bwganod nag â darparu gwybodaeth gywir i bobl allu dewis yn wybodus ar ei sail. A wnewch chi ymuno â mi i gondemnio gwleidyddiaeth ‘chwiban y ci’ y dde eithafol sy’n ceisio cymell delweddaeth hiliol ac ecsbloetio ofnau pobl gyda datganiadau sy’n awgrymu bod pleidlais i aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn cynyddu’r risg i fenywod o gael eu treisio?