Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 8 Mehefin 2016.
Mae hynny’n iawn. Mae’n wir i ddweud, wrth gwrs, fod y Deyrnas Unedig wedi cael ei llusgo i sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei lanhau ac i sicrhau bod yr afonydd a hefyd y môr a’r awyr yn well na beth oedd yn wir 30 mlynedd yn ôl. Rwy’n cofio, fel rhywun oedd yn pysgota lot fel bachgen, fod yr Afon Taf yng Nghaerdydd yn wael dros ben; roedd braidd dim ynddi hi. Erbyn hyn, wrth gwrs, mae yna eogiaid yn oifad—’nofio’ dylwn i ddweud—lan yr afon, ac mae hynny’n dangos faint o les sydd wedi cael ei wneud i’n hamgylchedd ni o achos y cyfreithiau Ewropeaidd sydd wedi sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn cael amgylchedd llawer yn well nag o’r blaen.