Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 8 Mehefin 2016.
Mae hwn yn rhywbeth inni ei ystyried, wrth gwrs. Mae’n bwysig dros ben ein bod ni’n sicrhau hefyd fod yna weithredu’n cymryd lle ar draws y byd. Rŷm ni’n gallu chwarae ein rhan, wrth gwrs—rŷm ni wedi gwneud hynny o achos y ddeddfwriaeth sydd wedi cael ei phasio. Ond hefyd, nid oes pwynt inni leihau beth ŷm ni’n ei wneud ynglŷn â newid hinsawdd os yw pethau’n mynd yn waeth mewn gwlad arall. Felly, dyna pam mae hi mor bwysig sicrhau bod gweithredu’n cymryd lle ar draws y byd a’n bod ni’n chwarae rhan hanfodol yn hynny.