<p>Newid yn yr Hinsawdd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 8 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:52, 8 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, un ffordd o wella’r amgylchedd, wrth gwrs, ac allyriadau yn wir, yw buddsoddi mwy mewn ynni cynaliadwy, a gwn fod hwnnw’n fater sy’n codi yn ei ran ef o’r byd. Mae’n amlwg fod rhai ffurfiau ar ynni sy’n llygru llawer llai nag eraill, a dyna’r trywydd sy’n rhaid i ni a’r byd ei ddilyn yn y dyfodol. Un ffordd o fuddsoddi ymhellach, wrth gwrs, er mwyn lleihau allyriadau carbon yw buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus. Mae metro de-ddwyrain Cymru yn enghraifft o hynny, fel y bydd systemau metro eraill ledled Cymru, yn Abertawe ac yn wir, yng ngogledd-ddwyrain Cymru i ddechrau.

Mae yna ffyrdd eraill hefyd, wrth gwrs, o leihau allyriadau. Er enghraifft, os oes gennych broblemau gyda thraffig, lle mae traffig yn segur am beth amser neu’n symud yn araf ar ffordd benodol, bydd ffordd osgoi yn helpu. Rwy’n siŵr y bydd yn gwybod hynny, wrth gwrs, o ystyried y ffaith fod ffordd osgoi’r Drenewydd yn mynd rhagddi. Bydd hynny’n helpu i leihau allyriadau, rwy’n siŵr, yn ei etholaeth.