1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 8 Mehefin 2016.
4. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut mae parhad aelodaeth y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd yn effeithio yn ei hanfod ar economi Islwyn? OAQ(5)0036(FM)
Wel, mae aelodaeth o’r UE a mynediad parhaus i farchnad sengl o dros 500 miliwn o bobl yn rhoi manteision enfawr i bobl Islwyn, a Chymru yn wir. Mae tua 40 y cant o’n hallforion yn mynd yno, mae’n helpu i gyllido buddsoddiadau hirdymor yn y seilwaith ac yn cefnogi ffermio yng Nghymru.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Yn ogystal â’r 190,000 o swyddi yng Nghymru yn unig sy’n dibynnu’n uniongyrchol ar gyllid gan yr UE, mae fy etholwyr hefyd yn elwa ar yr hawliau pwysig a gafwyd yn sgil aelodaeth y DU o’r Undeb Ewropeaidd, boed hynny’n absenoldeb â thâl—[Torri ar draws.] Esgusodwch fi—amser o’r gwaith mewn argyfwng, toriadau egwyl yn ystod y dydd, deddfwriaeth iechyd a diogelwch, a gallaf fynd ymlaen. Rydych hefyd wedi sôn am drethiant mewn perthynas â thariffau y byddai’r blaid gyferbyn yn hoffi eu dadlwytho ar Gymru. Gallwn fynd ymlaen ac ymlaen. Yn wyneb hyn—a dyma fy nghwestiwn, Lywydd—beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i amddiffyn hawliau gweithwyr yn wyneb Thatcherwyr ailanedig yn y Siambr hon a fyddai’n ein gyrru yn ôl i’r 1980au?
Wel, rwy’n gwybod bod yr economegwyr sy’n cefnogi Prydain yn gadael yr UE yn tueddu i fod, gadewch i ni ddweud, yn lleiafol eu hagwedd tuag at ddiogelu hawliau gweithwyr. Mae arch-Thatcherwyr o’r 1980au yn wir yn bobl nad ydynt yn credu bod gweithgynhyrchu yn bwysig. Dyna’r hyn rwyf wedi’i glywed gan yr Athro Minford, er enghraifft. Dyna y mae ef wedi’i awgrymu. Dyma’r realiti: rwy’n mynd dramor a phan ddof â buddsoddiad i Gymru—ac rydym wedi llwyddo i wneud hynny—mae’r prif gwestiwn a ofynnant yn ymwneud ag aelodaeth o’r UE. Nid oes ganddynt ddiddordeb mewn dod i Gymru. Nid oes ganddynt ddiddordeb mewn dod i’r DU. Mae ganddynt ddiddordeb mewn cael mynediad i’r farchnad o 500 miliwn. Os na allwn gynnig y mynediad hwnnw, ni ddaw’r buddsoddiad. Dywedir mai ein harian ni yw hwn. Nid arian Cymru ydyw. Dyma arian sy’n dod i Gymru o Frwsel a fyddai’n mynd o Frwsel i Lundain yn lle hynny. Gallwn warantu, oherwydd gwyddom yn y Siambr hon, os cyflwynwch y dyn canol, bydd y dyn canol yn cymryd cyfran. Mae Cymru’n elwa. Mae’n fuddiolwr net, a byddai’r arian hwnnw’n mynd i Lundain yn hytrach na dod i Gymru. O leiaf gyda’r sefyllfa sydd gennym yn awr, mae’n gywir dweud bod yr arian hwnnw’n dod i Gymru, ac mae’n sicr na fyddai’r arian hwnnw’n dod i Gymru yn y dyfodol ac y byddai pobl Cymru ar eu colled.
Bydd y Prif Weinidog yn gwybod am Ffordd Goedwig Cwmcarn, atyniad sy’n gaffaeliad i ardal Islwyn ac un sydd wedi elwa ar gyllid yr Undeb Ewropeaidd. Er mwyn goresgyn anawsterau diweddar ar Ffordd Goedwig Cwmcarn, a yw’r Prif Weinidog yn cytuno y gallai cyllid Ewropeaidd yn y dyfodol fod yn allweddol, ac a fyddai’n cytuno ymhellach ac yn ymrwymo i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gweithio i ddatgloi’r holl ffynonellau cyllid posibl i sicrhau dyfodol i Ffordd Goedwig Cwmcarn?
Yn bendant. Rwy’n gwybod bod problemau wedi bod ar y ffordd goedwig gyda chlefydau coed yn y gorffennol. Mae’n atyniad hynod ddefnyddiol i etholaeth Islwyn, ac rydym yn gwybod bod angen i ni allu manteisio ar yr holl botiau sydd ar gael i ni er mwyn hybu i’r eithaf yr effaith ar yr economi leol y mae’r ffordd yn ei darparu.
Brif Weinidog, rhwng 2014 a 2020, bydd Cymru yn elwa ar oddeutu £1.8 biliwn o fuddsoddiad y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd i gefnogi cymunedau megis Islwyn. O ystyried y rhybuddion diweddar y gallai’r cyllid hwn ddod i ben ar ôl 2020, hyd yn oed os yw’r DU yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd, pa gamau a gymerwch i sicrhau bod dyfodol i gyllid strwythurol Ewropeaidd ar gyfer Cymru?
Ni fydd cyllid strwythurol Ewropeaidd yno o gwbl ddiwedd y mis hwn os yw pethau’n mynd y ffordd na fyddwn eisiau iddynt fynd. Nid oes unrhyw sicrwydd o gwbl y byddai’r arian hwnnw’n cael ei ddarparu gan Lundain. Gwyddom fod ein ffermwyr yn cael £260 miliwn y flwyddyn. Nid yw hwnnw’n arian sydd gennym y gallwn ei roi, ond caiff yr arian hwnnw ei ddarparu i’n ffermwyr er hynny. Nid oes unrhyw ffordd y gellir bwrw ymlaen â metro de-ddwyrain Cymru oni bai ein bod yn gallu cael mynediad at arian Ewropeaidd neu bot cyfwerth. Nid wyf yn credu y bydd Llywodraeth y DU yn darparu’r arian, geiniog am geiniog, punt am bunt, y byddai pobl Cymru yn ei golli o ganlyniad i adael yr UE.
Yn amlwg, rydym i gyd yn gwybod nad oes y fath beth ag arian Ewropeaidd; arian Prydeinig ydyw, sy’n dod yn ôl i ni ar ôl iddynt ddwyn ei hanner. Ond a gaf fi ddweud, efallai nad yw’r Prif Weinidog yn ymwybodol fod pobl yn ystyried mai Islwyn yw’r etholaeth fwyaf Ewrosgeptig yng Nghymru? A allwch chi feio’r etholaeth? Er enghraifft, llafur mudol, bron yn gyfan gwbl, sy’n cael ei gyflogi gan y rhan fwyaf o’r ffatrïoedd ar ystâd Oakdale yn Islwyn, fel sy’n wir, wrth gwrs, drwy Gymoedd y de benbaladr. A hoffech chi roi sylwadau ar hynny, os gwelwch yn dda?
Gallaf. Mae yna fentrau yng Nghymru, fel lladd-dy St Merryn, a fyddai’n cau oni bai am y ffaith eu bod yn gallu gwneud defnydd o rai gweithwyr mudol fan lleiaf. Ac mae’n golygu bod pobl sy’n byw yn yr ardal yn gallu cadw swydd a fyddai fel arall yn cael ei cholli iddynt. Ceir digon o enghreifftiau. General Dynamics. Mae’n sôn am Oakdale. At ei gilydd, mae General Dynamics yn cyflogi pobl sy’n lleol i’r ardal, ac maent yn gyflogwr pwysig yn yr ardal. Y realiti yw ei fod yn gweld pethau o safbwynt Llundain; rwy’n gweld pethau o safbwynt Cymru. A’r gwir amdani yw ein bod yn cael arian o Ewrop. Byddai’r arian hwnnw’n aros yn Llundain—ni fyddech yn ei weld. Ni fyddem yn ei weld yng Nghymru i’r un graddau. Mae’n wir ein bod ni yng Nghymru yn cael mwy yn ôl o’r Undeb Ewropeaidd nag a rown i mewn, ac rwy’n gweld pethau o safbwynt Cymreig ac o safbwynt sicrhau ein bod yn cael ffyniant a mynediad i farchnadoedd ar gyfer pobl Cymru.