<p>Gweithgareddau’r Tasglu Dur</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 8 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:05, 8 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Nid wyf yn gwybod am y seminar, ond byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gyda mwy o fanylion am hynny. Mae’n tynnu sylw at bwynt pwysig, wrth gwrs, sef tegwch yn y farchnad. Nid y Comisiwn Ewropeaidd a roddodd feto ar y syniad o dariffau, ond Llywodraeth y DU—rhywbeth y credaf eu bod yn ei ddifaru bellach. Mae Llywodraethau eraill wedi gwneud hyn; nid oes unrhyw reswm pam na ddylai Ewrop wneud yr un peth. Yr unig beth rydym yn edrych amdano, wrth gwrs, hi a minnau, ac wrth gwrs, yr Aelod dros Aberafan, yw tegwch i’n gweithwyr dur.