Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 8 Mehefin 2016.
Fel mab i löwr oedd yn Orgreave yn ystod y streic, a gaf i ategu’n gryf iawn alwad Mick Antoniw ar gyfer ymchwiliad llawn? A fyddai’r Prif Weinidog yn cytuno hefyd fod eisiau i’r cylch gorchwyl fod mor eang ag sy’n bosib, er enghraifft, i edrych ar yr honiadau ynglŷn â defnydd y lluoedd arfog ar y pryd, i edrych ar gydlynu datganiadau gan yr heddlu, wrth gwrs, a oedd wedi digwydd yn achos Hillsborough, a’r defnydd, wrth gwrs, o’r cyfryngau i gamarwain pobl ynglŷn â’r hyn ddigwyddodd, yn achos Hillsborough gyda ‘The Sun’, ac yn achos Orgreave, wrth gwrs, y BBC?