Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 8 Mehefin 2016.
Yn bendant. Roedd yn bleser gennyf agor yr academi yng Nghasnewydd, yr academi genedlaethol. Darparwyd cymorth ariannol gennym i’r FAW er mwyn ei sefydlu. Mae’n hynod o bwysig fod gennym gyfleusterau modern gyda mynediad at hyfforddiant da ar lefel elitaidd chwaraeon er mwyn sicrhau lefel uchel o berfformiad. Ond mae’n bwysig hefyd i ni wneud yn siŵr fod y cyfleusterau yn eu lle i annog pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon ar bob lefel a dyna’n union y byddwn yn parhau i’w wneud, gan weithio gyda sefydliadau fel Chwaraeon Cymru.