Part of the debate – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 8 Mehefin 2016.
Gan mai dyma’r datganiad busnes cyntaf i ni ei gael ers rhai wythnosau, mae gennyf un neu ddau o bethau yr hoffwn eu gofyn i’r Gweinidog Busnes ac rwy’n gobeithio y byddwn yn clywed gan y Llywodraeth yn ystod y pythefnos nesaf. Yn gyntaf rwyf am ddweud fy mod yn cefnogi’r hyn y mae Lynne Neagle newydd alw amdano, ac wrth gwrs, mae’r streic hon yn effeithio ar amgueddfeydd ledled Cymru, mewn gwirionedd, a llawer o amgueddfeydd mewn rhannau gwledig o Gymru yn ogystal. Rwy’n hyderus, Weinidog Busnes, y bydd Cymru yn pleidleisio dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd, ond mae’n bosibl y bydd y DU yn pleidleisio dros adael. A allwch ddweud a yw’r Llywodraeth yn paratoi unrhyw gynlluniau wrth gefn pe baem yn cael pleidlais dros ‘adael’ ac effaith a sioc hynny i economi Cymru? A yw’n bosibl cael datganiad, felly, ar unrhyw gynlluniau wrth gefn y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud cyn y canlyniad posibl hwnnw?
Yr ail fater sydd wedi dod ar yr agenda yn ddiweddar iawn yw’r gostyngiad pellach ym mhrisiau llaeth i ffermwyr Cymru. Nid yw hon yn sefyllfa hawdd i’w datrys—rwy’n deall ac yn gwerthfawrogi hynny—ond rwy’n meddwl y byddem oll yn gwerthfawrogi datganiad buan gan yr Ysgrifennydd newydd ynglŷn â phrisiau llaeth, cefnogaeth i’r diwydiant llaeth yng Nghymru, ac yn benodol, rwy’n credu, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda’r banciau, sydd wedi rhoi benthyg yn eithaf hael dros y blynyddoedd ar gyfraddau llog isel i lawer o ffermwyr llaeth, ond sydd bellach yn profi, wrth gwrs, rhai anawsterau llif arian go iawn, ac mae’r banciau, mewn rhai achosion, braidd yn llawdrwm mewn perthynas â rhai o’r ad-daliadau hynny. Ac rwy’n credu bod gan Lywodraeth Cymru ran i’w chwarae mewn trafodaethau gyda banciau a’r diwydiant llaeth yn y cyd-destun hwnnw.
Rwy’n credu bod y pwynt olaf yr hoffwn ei wneud yn deillio, a bod yn deg, o’r cwestiwn a ofynnodd Arweinydd y blaid Geidwadol ynglŷn â pholisi presennol y Llywodraeth o leihau maint dosbarthiadau i ddisgyblion meithrin. Edrychais yn ofalus iawn ar hyn pan oeddwn yn gyfrifol am bolisi addysg Plaid Cymru, ac ni chefais fy argyhoeddi gan y dystiolaeth. Ond hoffwn weld y dystiolaeth sydd gan Lywodraeth Cymru bellach i gyfiawnhau’r gwariant hwn mewn perthynas â gwariant arall sy’n llawer mwy gwerthfawr, yn fy marn i, i fuddsoddi yn y proffesiwn ei hun a sgiliau a safonau datblygu addysgwyr proffesiynol—nid yn unig athrawon ond cynorthwywyr dosbarth yn ogystal. Felly, rwy’n gobeithio y gallwn gael datganiad buan gan yr Ysgrifennydd addysg newydd—rwy’n ei chroesawu i’w lle—ac y bydd y datganiad buan hwnnw’n nodi’r dystiolaeth ar gyfer y polisi hwn sydd gan y Llywodraeth bresennol bellach.