3. 3. Datganiad: Bil Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 8 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:33, 8 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Lywydd, hoffwn wneud datganiad am Fil Cymru Llywodraeth y DU, a gyflwynwyd yn y Senedd ddoe.

Prin fod angen dweud bod y Bil hwn yn hanfodol bwysig i Gymru, a bydd yr Aelodau’n ymwybodol ei fod wedi cael hanes cythryblus ers cyhoeddi’r ymgnawdoliad blaenorol ar gyfer craffu cyn y broses ddeddfu fis Hydref diwethaf. Ym mis Tachwedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru feirniadaeth fanwl a ddaeth i’r casgliad nad oedd y Bil yn addas at y diben, a byddai’n cyflwyno cyfyngiadau ar gymhwysedd y Cynulliad a fyddai’n anghyson â mandad refferendwm 2011. Cefnogodd rhanddeiliaid arbenigol a Phwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad y dadansoddiad hwnnw ym mis Mawrth. Argymhellodd y Pwyllgor Materion Cymreig y dylid oedi taith y Bil i’w gwneud hi’n bosibl gwneud gwaith sylweddol pellach cyn ei gyflwyno, a’r Bil a gyhoeddwyd ddoe yw ffrwyth y gwaith hwnnw.

Rhaid i mi ddweud, Lywydd, fod y Bil newydd yn bell o fod yn berffaith, ac mae angen gweithio ar lawer o fanylion pwysig o hyd, ond mae’n well na’r drafft blaenorol. Mae wedi elwa o drafodaeth gyda swyddogion Llywodraeth Cymru, ac mae’r trafodaethau hynny’n parhau. Buaswn wedi hoffi ei weld yn cael ei gyflwyno’n ddiweddarach i ganiatáu i fwy o gynnydd gael ei wneud, ond mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi fy sicrhau y bydd y trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ar fanylion yn parhau, ac y dylai fod lle i ailystyried darpariaethau’r Bil yn sylweddol eto yn ystod ei daith.

Ar sail hynny, rwy’n gallu rhoi croeso gofalus i’r drafft hwn. Rwy’n cydnabod bod cynnydd wedi’i wneud, ond bydd angen gwelliannau pellach ar nifer o faterion allweddol. Rwyf wedi gwneud hynny’n glir i’r Ysgrifennydd Gwladol, a byddaf yn ysgrifennu ato i nodi’r safbwyntiau hyn yn fanwl. Ond a gaf fi amlinellu’n fyr y cynnydd cadarnhaol a wnaed, a chrynhoi’r materion pwysicaf sydd eto i’w gwneud?

Mae’r Bil yn cynnwys darpariaethau ar gyfer pwerau newydd mewn meysydd fel etholiadau, caniatadau ynni, trafnidiaeth a thrwyddedau morol. Rydym wedi croesawu’r rhain bob amser, ac mae’r drafft wedi’i wella. Nid yw’r darpariaethau cyfansoddiadol, sy’n ymdrin â pharhauster y Cynulliad a chonfensiwn Sewel wedi newid o ran eu sylwedd ac maent i’w croesawu at ei gilydd, er nad yw darpariaethau Sewel, fel yn yr Alban, yn cynnwys yr holl amgylchiadau lle mae angen cydsyniad y Cynulliad, yn anffodus. Mae dileu’r cyfyngiadau sydd wedi dyddio ar drefniadau mewnol y Cynulliad yn newid i’w groesawu hefyd wrth gwrs.

Roedd un o’r problemau mwyaf gyda’r drafft cynharach o’r Bil yn codi o’r darpariaethau a oedd yn ailgastio’r model rhoi pwerau yn fodel cadw pwerau. Roedd Llywodraeth y DU wedi dadlau bod diogelu awdurdodaeth ar y cyd Cymru a Lloegr o fewn y model newydd yn galw am osod cyfyngiadau newydd ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Roedd hwn yn gyfyngiad annerbyniol ac anymarferol ar y cymhwysedd presennol, a oedd yn cynyddu cymhlethdod ac ansicrwydd ym mhwerau’r Cynulliad yn fawr. Mae’r Bil newydd yn welliant sylweddol, a bydd gan y Cynulliad bwerau helaeth i addasu’r gyfraith breifat a chyfraith droseddol mewn perthynas â materion o fewn ei gymhwysedd. Mae’n dal i fod angen cryn dipyn o waith manwl pellach ar y darpariaethau hyn i sicrhau rhywfaint o gysondeb, cydlyniad ac ymarferoldeb cyffredinol, ond maent yn dangos cynnydd cadarnhaol.

Ar yr un pryd, fodd bynnag, wrth ymestyn cymhwysedd y Cynulliad i feysydd newydd o’r gyfraith, bydd y Bil yn rhoi ffocws cliriach ar y tensiwn o fewn yr awdurdodaeth sengl a oedd yn amlwg yn y drafft gwreiddiol. Yn ein tystiolaeth graffu cyn deddfu atodol, dadleuasom dros awdurdodaeth ar wahân fel ateb i’r tensiwn hwn, a chyhoeddasom Fil drafft amgen, a oedd yn darparu ateb mwy hirdymor a chynaliadwy. Mae’r Bil drafft diwygiedig yn ei gwneud yn gwbl eglur y bydd y gwahaniaeth rhwng y gyfraith sy’n gymwys yng Nghymru a’r gyfraith sy’n gymwys yn Lloegr yn parhau i dyfu dros gyfnod o amser hyd at y pwynt lle y bydd awdurdodaeth benodol neu ar wahân i Gymru yn anochel. Byddaf yn parhau i ddadlau bod rhaid mynd i’r afael â’r mater hwn yn y Bil os yw’n mynd i fod yn gwbl gredadwy fel setliad hirdymor i Gymru. Nawr, os nad yw Llywodraeth y DU yn gweld ei ffordd yn glir tuag at ateb cyflawn yn y Bil hwn, dylai o leiaf roi trefniadau ar waith sy’n paratoi’r ffordd ar gyfer ateb mwy hirdymor.

Mae’r Bil newydd hefyd yn dynodi rhywfaint o welliant mewn perthynas â chaniatadau Gweinidogion Llywodraeth y DU sydd eu hangen ar gyfer Biliau’r Cynulliad. Croesewir y lleihad yn yr angen am ganiatadau o’r fath, ond unwaith eto, mae yna gryn gymhlethdod, ac mae angen gwaith pellach cyn y bydd yn bosibl dweud a yw’r canlyniad cyffredinol yn dderbyniol ac yn ymarferol. Hefyd gwnaed cynnydd ar leihau nifer a chwmpas y cymalau cadw, ond byddwn yn pwyso am welliannau i gael gwared ar sawl un sy’n parhau, gan gynnwys, er enghraifft, ardoll seilwaith cymunedol a thrwyddedu alcohol.

Soniaf yn fyr am y materion eraill pwysicaf mewn perthynas â’r Bil. Mae’n dileu’r darpariaethau refferendwm yn Neddf Cymru 2014, gan olygu y byddai’r Trysorlys, drwy Orchymyn, yn gallu dechrau datganoli treth incwm heb ganiatâd y Cynulliad na Gweinidogion Cymru. Rwyf wedi dweud yn glir na fyddaf yn gallu cefnogi datganoli treth incwm heb fframwaith cyllidol cyffredinol clir drwy gytundeb y ddwy Lywodraeth, ac y bydd y cytundeb hwn yn rhagamod i gefnogi cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil. Credaf fod hynny’n gwbl resymol, lle ceir cytundeb y ddwy ochr.

Mae darpariaethau’r Bil ar gyfer dŵr yn annerbyniol fel y maent—nid ydynt yn cyflawni ymrwymiadau Dydd Gŵyl Dewi. Mae cyflogau athrawon yn parhau i fod yn gymal cadw yn y Bil, yn sgil trafodaethau sy’n parhau ar y trosglwyddo cyllid sydd ei angen i gefnogi datganoli, er bod cytundeb ar ddatganoli mewn egwyddor. Ni fydd yn syndod i’r Aelodau fy nghlywed yn dweud bod yr amcangyfrif a roddwn ar y gost o gymryd cyflog ac amodau athrawon rywfaint yn wahanol i’r hyn y mae Llywodraeth y DU yn barod i’w gynnig. Ac mae’n rhaid i’r holl faterion hynny gael sylw.

I gloi, rwy’n croesawu’r cynnydd a wnaed hyd yn hyn, ond mae angen cryn dipyn o welliant pellach i wneud y Bil yn addas i’r diben ac yn addas i’r Cynulliad ystyried rhoi ei ganiatâd. Lle y gallwn ddod i gytundeb, bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno gwelliannau. Yn anochel, bydd anghytundeb yn parhau ynghylch rhai materion sylfaenol, megis ar ddatganoli plismona—digon da i’r Alban, Gogledd Iwerddon, Llundain a Manceinion, ond nid i Gymru yn ôl pob golwg—lle bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso ac i annog trafodaeth Seneddol.

Lywydd, yn ystod y Cynulliad diwethaf, ceisiais ddatblygu’r drafodaeth ar y setliad datganoli cyn belled ag y bo modd drwy gonsensws trawsbleidiol. Byddaf yn parhau i ddefnyddio’r dull hwnnw o weithredu a byddaf yn rhannu fy llythyr at yr Ysgrifennydd Gwladol yn ymateb i’r Bil gydag arweinwyr y pleidiau yma ac yn San Steffan. Mae llawer o waith i’w wneud o fewn amserlen dynn ac rwy’n gobeithio y gallwn weithio gyda’n gilydd, ar draws y pleidiau, i gael y canlyniad gorau i Gymru.