Part of the debate – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 8 Mehefin 2016.
Diolch yn fawr am eich datganiad, Brif Weinidog. Hoffwn innau hefyd ganmol yr Ysgrifennydd Gwladol am y ffordd y mae wedi cymryd rhan yn y broses cyn cyhoeddi’r Bil hwn, drwy gyfarfod â phob plaid yn y Siambr hon a llawer ar y tu allan i’r Siambr ac i fyny yn San Steffan, er mwyn cyflwyno Bil sy’n eithriadol o wahanol, ddywedwn ni, i’r Bil drafft y dadleuwyd yn ei gylch ac a drafodwyd yn y Siambr hon rai misoedd yn ôl. Rwy’n meddwl fod gennym Fil a fydd yn cynyddu cyfrifoldebau’r Cynulliad hwn yn ddramatig ac yn y pen draw, er budd cyflawniad gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru, ond yn wir, yr economi ac yn anad dim, enw da’r Cynulliad hwn. Rwy’n meddwl bod angen i ni achub ar y cyfle hwn i sicrhau bod y Bil yn symud ymlaen mewn modd amserol gan fod angen i rai o’r darpariaethau hyn gyrraedd yma yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach.
Rwy’n clywed yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog am blismona, ond a fyddai’n cytuno, ar blismona, na ddylai hynny weithredu fel rhwystr rhag dod i gonsensws er mwyn i’r Bil hwn fynd yn ei flaen a mynd ati i gyflawni rhai o’r pethau eraill a fyddai’n amlwg yn elwa, megis yr etholiadau, megis caniatadau ynni, caniatadau morol, ac yn y blaen, sydd eu hangen yn ddirfawr er mwyn cynyddu gallu’r lle hwn i ddeddfu o blaid pobl Cymru?
Rwyf hefyd yn clywed yr hyn y mae’r Prif Weinidog yn ei ddweud am gyflogau athrawon, ac rwy’n anghytuno ag ef ar y mater penodol hwnnw. Rwyf wedi bod yn aelod o lawer o bwyllgorau a hefyd wedi bod mewn hustyngau lle y siaradodd Gweinidogion Llafur blaenorol yn helaeth ynglŷn â sut na fyddent eisiau cyflogau athrawon. Yn wir, dadleuodd Leighton Andrews, gynt o’r plwyf hwn, yn chwyrn yn erbyn y cyn lefarydd addysg, Nerys Evans, yn etholiad 2011 ynglŷn â pham na ddylid datganoli cyflogau athrawon i’r sefydliad hwn, gan ei fod yn gam tuag at gyflogau rhanbarthol, y mae, felly. Byddwn yn falch iawn o ddeall pam y mae’r Prif Weinidog mor awyddus i weld cyflogau athrawon yn cael eu datganoli. Oni fyddai’n dweud y byddai hynny’n gam tuag at greu strwythur cyflogau rhanbarthol y gellid ei ymestyn i feysydd eraill o wasanaeth cyhoeddus? Unwaith eto, byddwn yn gobeithio’n fawr iawn na fyddai’r Prif Weinidog yn gweld hwn fel rhwystr arall y gellid ei roi ar waith i atal y Bil rhag symud ymlaen mewn modd amserol drwy Dŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi.
Cytunaf yn llwyr â’r fframwaith cyllidol y mae’r Prif Weinidog wedi’i grybwyll yn ei ddatganiad. Mae angen rhoi hynny ar waith i wneud yn siŵr fod y cyfnod pontio ar bwerau treth incwm ar gyfer unrhyw Lywodraeth Cymru yn y dyfodol yn gynhwysfawr, a bod angen iddo roi sicrwydd ac yn anad dim, fod angen iddo wneud yn siŵr nad yw Cymru ar ei cholled. Byddaf yn gweithio gydag ef ar hynny i sicrhau nad yw hynny’n digwydd, ac unrhyw drafodaethau y byddai’n hoffi’u cael ar hynny ac unrhyw gymorth, credaf fod hwnnw’n waith caib a rhaw hanfodol lle gall pob arweinydd yn y Siambr geisio sicrhau consensws a mynd yn y pen draw at y Trysorlys ac at Weinidogion Llywodraeth mewn ffordd unedig, oherwydd mewn gwirionedd, yr hyn a welsom yn y pedwerydd Cynulliad oedd ein bod yn cyflawni llawer iawn mwy pan fo’r Siambr hon yn siarad ag un llais. Rwy’n meddwl bod y gwelliant ar y Bil hwn wedi’i gyflawni’n fawr drwy’r llais unedig a ddaeth o’r Cynulliad hwn pan gawsom y ddadl yma a phan bleidleisiodd y Cynulliad cyfan ar deilyngdod, neu fel arall fel y digwyddodd, y Bil drafft gwreiddiol a gyflwynwyd i’w drafod gan y Siambr hon.
Rwy’n nodi’r symud ar yr awdurdodaeth ar wahân. Rwy’n anghytuno ag arweinydd Plaid Cymru pan ddywed fod pob arbenigwr cyfreithiol eisiau awdurdodaeth ar wahân. Efallai fy mod wedi camglywed, ond rwy’n meddwl eich bod wedi dweud ‘pob’. Mae yna gorff o bobl sydd eisiau awdurdodaeth ar wahân, mae yna gorff o bobl sydd eisiau i’r sefyllfa bresennol barhau, ac mae yna gorff o bobl sy’n ddigon hapus i symud i’r sail hon o awdurdodaeth benodol tra bo corff cyfraith Cymru yn esblygu ac yn datblygu. Rwy’n meddwl ein bod wedi symud yn sylweddol i’r cyfeiriad cywir, ac rwy’n credu y dylid croesawu’r symudiad hwnnw’n fawr, ac mae’n gynnydd y gellir ei wella ymhellach wrth i gorff cyfraith Cymru dyfu yn y blynyddoedd nesaf.
Ond fel y dywedais, rwyf am weld y Bil Cymru hwn yn dechrau ar ei daith drwy Dŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi fel y gallwn, yn y pen draw, gael y cyfrifoldebau ehangach a fydd yn galluogi’r Llywodraeth a’r ddeddfwrfa i fwrw ymlaen â’r gwaith o wneud yr hyn y mae pobl Cymru wedi ein hethol i’w wneud, sef ceisio gwelliannau mewn cymunedau a bywydau ar draws Cymru gyfan. Rwy’n gobeithio’n fawr y gallwn weithio i adeiladu proses gyflym ar gyfer gweithredu Bil Cymru a lansiwyd ddoe.