Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 8 Mehefin 2016.
Lywydd, cafodd y Cynulliad hwn ei ailymgynnull yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad, yn rhannol ar fy nghais i, ond yn ei hanfod, i gydnabod y pryderon dwys sydd gan gymunedau dur ledled Cymru ac yn wir, pob un ohonom yn y Siambr hon ynghylch dyfodol gweithfeydd Tata. Ers hynny, rwyf wedi cael llawer o drafodaethau gyda Tata, Llywodraeth y DU, undebau llafur a phrynwyr a buddsoddwyr posibl. Heddiw, hoffwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Siambr am y sefyllfa fel y mae a’r cynnydd sy’n cael ei wneud.
Mae’r Aelodau’n gwybod fy mod wedi bod yn Mumbai ychydig wythnosau yn ôl i barhau fy neialog gyda Tata ynglŷn â’r broses werthu. Trwy gydol y broses hon, fy mhrif bryder yw gweithlu Tata, y cymunedau dur a’r angen i sicrhau diwydiant dur hirdymor a chynaliadwy ar gyfer holl weithrediadau Tata yng Nghymru. Dyma’r achos rwyf wedi’i gyflwyno’n gyson ac yn uniongyrchol i uwch arweinwyr Tata.
Bydd yr Aelodau’n deall yn iawn fod cyfrinachedd masnachol yn cyfyngu ar yr hyn y gellir ei ddweud mewn unrhyw fanylder, ond gallaf gadarnhau bod ein trafodaethau wedi bod yn adeiladol ac yn arwyddocaol, a safbwynt Tata o hyd yw mai ei flaenoriaeth yw cynnal proses werthu sy’n sicrhau canlyniad cadarnhaol. Ac mae Tata bellach yn y broses o werthuso’r cynigion y mae wedi’u cael. Nawr, pa benderfyniad bynnag a wneir gan Tata, rydym yn barod i gefnogi unrhyw gynigwyr sy’n mynd drwodd i’r cam nesaf a fydd yn arwain at gadw swyddi a chynhyrchiant dur cynaliadwy yng Nghymru.
Ddydd Mercher diwethaf, gwelsom lansio British Steel, wedi i Greybull Capital brynu is-adran cynhyrchion hir Ewropeaidd Tata, sydd wedi’i leoli’n bennaf yn Scunthorpe. Mae hynny’n cynnig rhai rhesymau cadarn dros fod yn hyderus fod yna ddyfodol hyfyw i wneud dur yng Nghymru a’r DU yn ehangach, a dyna y mae Llywodraeth Cymru, ac yn wir y Cynulliad hwn, wedi bod yn ei ddweud ar hyd yr amser.
Y bore yma, mynychodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ei gyfarfod cyntaf o Gyngor Dur Llywodraeth y DU. Mae gwaith y Cyngor Dur yn cael ei ddatblygu drwy bedwar gweithgor sy’n ystyried nid yn unig sut rydym yn ymateb i’r argyfwng dur presennol, ond cynaliadwyedd hirdymor gwneud dur. Mae ein swyddogion mewn cysylltiad dyddiol â Llywodraeth y DU a hefyd yn mynychu pedair ffrwd waith y Cyngor Dur.
Yn y cyfamser, mae gwaith ein tasglu Tata Steel yn parhau; cynhaliodd ei gyfarfod diweddaraf ar 9 Mai. Darperir cymorth a chyngor gan y Ganolfan Byd Gwaith, gan weithio’n agos gyda Tata, Gyrfa Cymru, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill. Cafwyd ymateb cadarnhaol i’r sesiynau ymwybyddiaeth, gyda thua 300 yn mynychu hyd yn hyn. Ar 28 Ebrill, cynhaliwyd ffair swyddi a fynychwyd gan 38 o weithwyr o galibr uchel, ac mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer ffair swyddi arall. Roedd cynrychiolwyr undebau yn gadarnhaol ynglŷn â’r cymorth a ddarparwyd hyd yn hyn.
Mae’r tasglu yn cydnabod y bydd angen cyfathrebu’n barhaus â chyn-weithwyr dros y misoedd nesaf, gan na fydd rhai unigolion yn awyddus i dderbyn cynigion o gymorth ar unwaith. Cynlluniwyd sesiynau cyngor pellach ar gyfer mis Mehefin a mis Gorffennaf, a bydd y rhain yn cael eu hagor i’r gadwyn gyflenwi fel y bo’n briodol.
Mae ffrydiau gwaith y tasglu hefyd yn parhau â’u gwaith. Mae’r ffrwd waith iechyd yn asesu tystiolaeth ar ba effaith a geir ar wasanaethau sylfaenol a chymunedol. Cynlluniwyd gweithdai cymunedol hefyd i ddarparu gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i’r rhai yr effeithiwyd arnynt o ganlyniad i gael eu diswyddo ac aelodau o’r teuluoedd ehangach. Mae’r ffrydiau gwaith hyfforddiant a sgiliau, a busnes a’r gadwyn gyflenwi hefyd yn gweithio’n agos gyda’i gilydd, gan gysylltu hefyd, wrth gwrs, â gwaith y ffrwd waith iechyd. Mae’n helpu i sicrhau bod ystyriaeth lawn yn cael ei rhoi i gymorth ar gyfer unigolion sy’n gweithio yn y gadwyn gyflenwi, yn ogystal â gweithwyr uniongyrchol Tata. Lywydd, mae Busnes Cymru ar hyn o bryd yn gweithio gyda 60 o brif gwmnïau cyflenwi Tata ar sail un i un, ac mae’n dod â chefnogaeth ehangach i mewn, gan gynnwys cymorth sgiliau a hyfforddiant yn ôl yr angen.
A gaf fi droi at gaffael? O ran caffael, rydym yn parhau i ddadansoddi’r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, sy’n darparu gwelededd i’n rhaglen a’n prosiectau blaenoriaeth, er mwyn sefydlu rhagolwg o’r angen am ddur yn y dyfodol. Bydd y gwaith hwn yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir i ddarparu eglurder ynghylch y gofynion hynny. Mae gwaith hefyd wedi symud ymlaen yn dda ar gryfhau ein polisi caffael, a fydd yn egluro pwysigrwydd agor cyfleoedd i gyflenwyr dur yn y DU.
Yn ein dogfennau contract cludiant, rydym wedi gwthio pethau ymhellach eto o ran y defnydd o ddur y DU. Nid yn unig ein bod yn datgan bod yn rhaid i gontractwr sicrhau bod y deunyddiau sy’n cael eu defnyddio ganddo a’i is-gontractwyr yn cydymffurfio â gofynion BES 6001, ond rydym hefyd wedi datgan yn benodol fod Llywodraeth Cymru yn disgwyl na fydd contractwr yn defnyddio dur wedi’i ddympio o farchnadoedd tramor ar gyfer unrhyw ddur sy’n cael ei ddefnyddio ar y prosiect.
Gan symud i feysydd eraill o gefnogaeth, rydym wedi cyflwyno’r ardal fenter ym Mhort Talbot. Daw hyn yn sgil trafodaethau defnyddiol gyda chyngor Castell-nedd Port Talbot, y gymuned fusnes, a’r tasglu, gan bwyso ar arbenigedd y sector preifat drwy fwrdd yr ardal fenter, a gadeirir gan Roger Maggs, a hoffwn nodi ei gyfraniad arbennig yn gyhoeddus.
Lywydd, mae gweithwyr dur yn gwneud eu gwaith mewn amodau anodd, ac mae pensiwn diogel yn fudd hanfodol. Lansiodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad ar 26 Mai ar opsiynau ar gyfer darparu diogelwch i gynllun pensiwn Dur Prydain. Nid yw pensiynau wedi’u datganoli, ond rwy’n gwbl glir fod yn rhaid diogelu uniondeb y cynllun pensiwn, a rhaid i’r ymddiriedolwyr, Tata a Llywodraeth y DU weithio gyda’i gilydd i sicrhau canlyniad teg a phriodol i aelodau’r cynllun.
Lywydd, mae’r Llywodraeth hon yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i wneud popeth posibl i sicrhau canlyniad llwyddiannus i broses werthu Tata. Mae hon yn flaenoriaeth i ni i gyd, ac rwy’n ddiolchgar am y gefnogaeth drawsbleidiol sylweddol i’n cymunedau dur, a byddaf, wrth gwrs, yn parhau i sicrhau bod yr Aelodau’n parhau i gael y wybodaeth ddiweddaraf.