Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 8 Mehefin 2016.
A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiynau? Nid oes fawr ddim y byddwn yn anghytuno yn ei gylch. Yr hyn sy’n gwbl hanfodol yw bod yna ddyfodol cynaliadwy hirdymor a diogel i’n swyddi dur. Mae’n wir fod Tata wedi dweud eu bod yn dymuno gwerthu; dyna yw safbwynt eu bwrdd o hyd. Nid wyf yn siŵr fod hwnnw o reidrwydd yn safbwynt a fydd yn para am byth, os caf ei roi felly. Gallaf ddychmygu y byddai’r gweithwyr ym Mhort Talbot a’r gweithfeydd eraill yn poeni pe bai’n wir fod Tata yn mynd i barhau heb i warantau gael eu rhoi ynghylch beth fyddai cynlluniau Tata yn y dyfodol. Pe bai Llywodraeth y DU yn rhoi cymorth ariannol ar y bwrdd, byddwn yn disgwyl iddynt—ac nid wyf wedi clywed am unrhyw swm penodol—dderbyn gwarantau ynghylch buddsoddiad Tata yn asedau dur Cymru yn y dyfodol yn gyfnewid am hynny. Mae’n ymddangos i mi y byddai’n anodd amddiffyn unrhyw gamau i wneud fel arall.
O ran y cynllun pensiwn, mae’n llygad ei le: sefydlwyd y gronfa diogelu pensiynau i ymdrin â chronfeydd pensiwn sydd wedi methu, i bob pwrpas, am fod y busnes sy’n noddi wedi methu. Nid dyna a ddigwyddodd yma. Ni fyddem, beth bynnag, o blaid gweld cronfa bensiwn Dur Prydain yn mynd i mewn i’r gronfa diogelu pensiynau. Mae’r dewis arall a gyflwynwyd yn dal i fod yn hynod o anodd o ran y buddiolwyr, a’r neges y bydd yn ei chyfleu. Er enghraifft, os ceir bargen lle bydd Tata yn parhau, lle ceir cymorth ariannol sylweddol i Tata, a lle bydd y rhwymedigaethau pensiwn yn cael eu dileu, y neges i bob busnes arall yn y DU yw, ‘Wel, gadewch i ni wneud yr un peth’ ac nid wyf yn credu y gall cyllid cyhoeddus ymdopi â hynny. Ar ddechrau’r broses hon, y bwriad bob amser oedd y byddai mater pensiynau yn cael ei ddatrys er mwyn cynorthwyo cynigydd newydd a phrynwr newydd. Mae gwneud hynny ar gyfer cwmni sy’n bodoli eisoes yn llawn o beryglon, fel y mae’n gywir i ddweud.
Rwy’n gobeithio nad yw Llywodraeth y DU yn ystyried ystyriaethau gwleidyddol ar hyn o bryd, ond yn hytrach, eu bod yn ystyried dyfodol ein swyddi a’n cymunedau yma yng Nghymru, ac mewn mannau eraill yn y DU. Mae’n anodd gweld ar hyn o bryd a allai’r Cyngor Dur gynnal asesiad annibynnol, o ystyried maint y cytundebau peidio â datgelu sydd ar waith mewn perthynas â’r saith cynigydd. Mae’n hynod o bwysig, fodd bynnag, fod y broses geisiadau yn cael ei harchwilio’n fanwl. Mae Tata wedi fy sicrhau y bydd hynny’n digwydd, y byddant yn edrych ar y cynigion yn ofalus iawn, ac yn y pen draw, wrth gwrs, mae gan Tata enw da yn fyd-eang. Bydd colli’r enw da hwnnw’n gostus iddynt, ac maent yn gwybod hynny. Felly, yn fy marn i, beth bynnag yw’r canlyniad—a’r canlyniad rwyf fi eisiau yw dyfodol cynaliadwy a diogel—bydd angen i Tata ddangos eu bod wedi rhoi chwarae teg i’r gweithlu a’u bod wedi creu’r amodau a fydd yn golygu bod dyfodol i’r diwydiant. Ac fel y dywedais, mae’r enw da hwnnw yn werth rhywbeth iddynt. Roeddent yn pwysleisio hynny wrthyf yn y cyfarfodydd y maent wedi’u cael.
Mae’r ffaith fod yr amserlen wedi ymestyn yn galonogol i’r graddau ei fod yn golygu bod Tata yn edrych o ddifrif ar y ceisiadau, yn fy marn i, ond fel y bydd yn gwybod, mae nifer o rwystrau sy’n rhaid eu goresgyn eto. Mae’r gefnogaeth a gynigiwn fel Llywodraeth yn dal i fod yno. Rwyf wedi siarad ar sawl achlysur â dau o’r cynigwyr ac wedi gwrando ar eu cynlluniau, ac yn fy marn i, mae’r ddau gynigydd fel ei gilydd o ddifrif ynghylch eu cynigion. Rwy’n dweud unwaith eto ei bod yn bwysig i Tata roi ystyriaeth lawn i’r cynigion, a’u bod yn anelu i werthu’r asedau am bris teg a sicrhau dyfodol i’n cymunedau dur, ac mae’n hanfodol fod Llywodraeth y DU yn ystyried y tymor hir, yn hytrach na meddwl bod ateb tymor byr yn gadarn, gan nad yw hynny’n wir. Mae angen i ni feddwl, nid am yr ychydig fisoedd nesaf, na’n wir am y ddwy neu dair blynedd nesaf, ond am y ffordd rydym yn adeiladu’r dyfodol i’n diwydiant dur ar gyfer y degawd nesaf a thu hwnt.