Part of the debate – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 8 Mehefin 2016.
Rwyf wedi clywed llawer o’r sylwadau y mae’r Aelod wedi’u gwneud, fel mater IJmuiden. Nid oeddwn yn ymwybodol o’r cyfarfod yn neuadd y dref, er fy mod wedi clywed rhywbeth am yr hyn a oedd wedi digwydd, ond nid oeddwn yn ymwybodol mai ym Mhort Talbot y digwyddodd hynny. Rwyf wedi clywed bod Port Talbot wedi cael ei wneud i edrych yn waeth nag y mae. Nid oes gennyf unrhyw dystiolaeth i gefnogi hynny, ond rwyf wedi clywed hynny’n cael ei ddweud. Rwyf wedi clywed, er enghraifft, fod yna broblemau gyda’r porthladd, ac yn benodol y ffïoedd a godir gan y cwmni sy’n berchen ar y porthladd. Pam yn y byd y mae busnes ar wahân yn berchen ar y porthladd o gymharu â’r gwaith dur, dim ond y Torïaid yn yr 1980au allai esbonio hynny i chi, ond dyna yw’r sefyllfa yn y fan honno serch hynny. Soniwyd wrthyf am broblemau gyda’r taliadau yn y porthladd. Felly, mae yna nifer o faterion wedi codi lle nad oes ateb hawdd.
O ran y llyfr archebion, wel, wrth gwrs, byddai’n rhaid i unrhyw brynwr roi diwydrwydd dyladwy ar waith beth bynnag. Nid oes neb yn mynd i brynu asedau neu brynu busnes heb edrych ar y llyfrau. Mae’n deg dweud y cafwyd buddsoddiad yn y diwydiant dur yng Nghymru, yn enwedig ym Mhort Talbot. Gwelsom ffwrnais chwyth Rhif 5 yn cael ei hailadeiladu. Rydym wedi rhoi cynnig ar y bwrdd mewn perthynas â’r pwerdy. Buom yn gweithio gyda’r cwmni dair blynedd yn ôl yn edrych i weld a ellid tyllu cloddfa o fewn ffiniau’r gwaith dur. Felly, mae’r holl bethau hyn wedi cael eu harchwilio.
Mae ymchwil a datblygu yn fater arall. Mae angen i ni wneud yn siŵr, wrth i ni edrych ar ddyfodol y diwydiant dur yn ystod y blynyddoedd nesaf, fod capasiti ymchwil a datblygu yn bodoli yng Nghymru. Gwn fod Prifysgol Abertawe wedi dangos diddordeb yn hynny, ac rydym yn awyddus i weithio i sicrhau bod capasiti ymchwil a datblygu yn bodoli yng Nghymru. Rydym wedi llwyddo dros y blynyddoedd diwethaf i ddenu mwy o ymchwil a datblygu i Gymru i ychwanegu at y gweithgynhyrchu a wnawn a bydd yr un peth yn bwysig ar gyfer dur yn y dyfodol.
Felly, mae’r holl waith hwn yn cael ei wneud. Cafodd llawer o’r materion a grybwyllwyd ganddi eu dwyn i fy sylw i ac eraill. Rwy’n clywed bod Port Talbot yn awr yn llwyddo i adennill costau ar ôl bod yn colli £1 miliwn y dydd dri mis yn ôl, sy’n newid cyfeiriad sylweddol, ond wrth gwrs, bydd angen sicrhau, wrth i’r broses werthu fynd rhagddi, fod yna ddealltwriaeth o’r hyn yw’r sefyllfa ariannol go iawn mewn perthynas â’r diwydiant dur yng Nghymru.