Part of the debate – Senedd Cymru am 4:12 pm ar 8 Mehefin 2016.
O ran y cwestiynau a ofynnwyd, o ran y pen trwm, mae’r ddau gynigydd y bûm mewn cysylltiad â hwy yn dymuno cadw’r pen trwm. Mae ganddynt ymagweddau gwahanol tuag ato, ac mae hyn yn gyhoeddus—mae’n hysbys fod un o’r cynigwyr am edrych ar y defnydd o sgrap yn y dyfodol, yn hytrach na mwyn haearn. Byddai’r cynigydd arall yn cadw’r broses fel y mae. Er hynny, byddai’r pen trwm ym Mhort Talbot yn parhau. Mae’n gwestiwn anoddach, rwy’n meddwl, os gofynnir i gynigwyr warantu y bydd pob swydd yn aros. Nid wyf yn credu y gall cynigwyr gynnig sicrwydd o’r fath ar hyn o bryd, ond gallant gynnig y sicrwydd—y ddau rwyf wedi siarad â hwy—y bydd y pen trwm yn parhau, ac mae hynny’n hynod o bwysig. Oherwydd os yw’r pen trwm yn mynd, ni fydd byth yn cael ei adfer. Nawr, pan fydd cyflwr y farchnad yn parhau i wella, mae’n bosibl cyflogi mwy o bobl wedyn, ac mae hynny’n bwysig. Felly, mae diogelwch yno i’r pen trwm.
Ni fyddem yn cefnogi cynnig a fyddai, mewn unrhyw ffordd, yn cynnwys rhoi diwedd ar gynhyrchu dur ym Mhort Talbot oherwydd dyna ble mae rhan sylweddol o’r gwaith, ac yna bydd yn cael effaith niweidiol ar weddill y gweithfeydd o amgylch Cymru mewn perthynas â thunplat, Tata Steel Colors ac arbenigwyr fel Orb yn Llanwern.
Cyn y Nadolig, mewn cyfarfod a gefais, fe’i gwnaed yn glir i mi nad oedd gwerthiant yn debygol—a’i fod yn fater o fwrw ymlaen neu gau. Ar ôl y Nadolig, newidiodd y sefyllfa. Gwell hynny na chau, mae hynny’n wir, ond mae’n iawn dweud y bu newid meddwl yn Tata ar yr adeg honno. Nawr rydym mewn sefyllfa lle mae gwerthiant yn debygol. Cyn y Nadolig, yr arwyddion oedd bod ystyriaeth ddifrifol yn cael ei rhoi i adroddiad McKinsey ac y byddid yn edrych o ddifrif ar newid cyfeiriad. Ni awgrymwyd cyn y Nadolig fod cau’n debygol, os gallaf ei roi felly, ond yn sicr nid oedd gwerthiant yn debygol ar unrhyw adeg cyn yr amser hwnnw. Rydym yn gwybod mai dyna sy’n digwydd nawr.
Wrth gwrs, mae’r pecyn rydym wedi’i roi ar y bwrdd wedi’i fwriadu yn bennaf ar gyfer cynigwyr newydd. Roedd hynny ar adeg pan na chredid y byddai Tata am aros beth bynnag. Nid oes amheuaeth y bydd angen rhoi rhai gwarantau o ran unrhyw help gan y Llywodraeth, boed yn Llywodraeth y DU neu’n Llywodraeth Cymru. Ni allwn roi arian ar y bwrdd a gweld, mewn blwyddyn neu ddwy, fod arian wedi diflannu i bob pwrpas oherwydd bod yr asedau’n cael eu lleihau o ran nifer swyddi ac o ran cynhyrchu, ac mae hynny yr un mor berthnasol i Lywodraeth y DU ag i ninnau. Ac rydym yn cydnabod hynny, a bod yn deg, gan y byddai angen gwneud hynny.
Os daw cynigydd newydd gerbron sy’n wneuthurwr dur sefydledig, byddai’n dybiaeth resymol y byddant am barhau i wneud dur beth bynnag. Os oes gennych dynnwyr asedau’n dod i mewn, yna yn amlwg bydd yna broses wahanol iawn o feddwl ar waith. Nid yw byth yn glir, wrth gwrs, lle mae gennych weithredwr presennol, beth fydd eu bwriad yn y dyfodol, ac fe fydd angen, ar ran y gweithlu ac ar ran y pwrs cyhoeddus, cael gwarantau penodol ynghylch buddsoddiad yn y dyfodol a chynllun i’r dyfodol ar gyfer diwydiant dur Cymru.
O ran cymorth swyddi, unwaith eto, mae hynny’n rhywbeth y bydd y dinas-ranbarth yn edrych arno. Bydd yr Aelod yn gwybod bod gennym broses sefydledig ar gyfer delio â sefyllfaoedd fel hyn, sy’n cynnwys nifer o sefydliadau’n dod at ei gilydd i gynnig y gefnogaeth honno. Mae’n hollol hanfodol, wrth gwrs, mai’r sgiliau sy’n cael eu cynnig yw’r sgiliau sydd eu hangen yn yr economi leol ac wrth gwrs, bydd mewnbwn defnyddiol iawn gan fwrdd y dinas-ranbarth o safbwynt gallu asesu pa sgiliau sydd angen eu darparu er mwyn i bobl gael y swyddi diogel sydd eu hangen arnynt.