5. 5. Datganiad: Pencampwriaeth Bêl-droed Ewrop

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:19 pm ar 8 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 4:19, 8 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Lywydd. Fel y gŵyr yr Aelodau, yr wythnos hon bydd pymthegfed Pencampwriaeth UEFA Ewrop yn dechrau yn Ffrainc ac rwyf wrth fy modd y bydd Cymru, eleni, yn un o’r gwledydd sy’n cymryd rhan yn y bencampwriaeth sydd newydd ei ymestyn i 24 tîm. Ar ran Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad hwn, a gaf fi ddechrau drwy longyfarch tîm Cymru ar yr hyn a fu’n ymgyrch hynod lwyddiannus i ennill eu lle a dymuno pob lwc iddynt hefyd ar gyfer y bencampwriaeth sydd i ddod?

Wrth gwrs, dyma gemau terfynol y bencampwriaeth fawr gyntaf i Gymru gystadlu ynddi ers 1958. Bydd llawer ohonom yn cofio’n eithaf clir y gyfres boenus o siomedigaethau y mae’r tîm wedi’u profi dros y blynyddoedd ac felly gyda phleser mawr, a balchder yn wir, fe welsom y tîm yn cyrraedd y bencampwriaeth eleni. O dan gyfarwyddyd Chris Coleman, mae’r garfan wedi dangos cadernid, penderfyniad a gwaith tîm gwych ac nid yw ond yn deg i ni gofnodi ein cydnabyddiaeth o’r arweinyddiaeth y mae ei dîm hyfforddi a’r FAW wedi’i dangos yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae llwyddo i fynd drwodd i’r rowndiau terfynol yn deyrnged addas i Gary Speed, a helpodd i osod llawer o sylfeini llwyddiant presennol y tîm ac a gâi ei barchu a’i edmygu gan gymaint o bobl ledled Cymru.

Bydd gêm gyntaf Cymru yn erbyn Slofacia yn dechrau am 6 pm amser y DU ddydd Sadwrn 11 Mehefin yn Bordeaux, gyda gemau grŵp pellach yn cael eu chwarae yn erbyn Lloegr yn Lens am 2 pm ddydd Iau Mehefin 16, a’r gêm grŵp olaf yn erbyn Rwsia, yn dechrau am 8 pm ddydd Llun 20 Mehefin yn Toulouse. Y bencampwriaeth Ewropeaidd yw un o’r digwyddiadau chwaraeon sydd â’r proffil uchaf yn y byd. Yn Ewro 2012 cafwyd cynulleidfa deledu gyfunol o 1.9 biliwn i gyd a bydd y proffil byd-eang y bydd Cymru yn ei gael yn yr wythnosau nesaf yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i fanteisio i’r eithaf arno.

Ochr yn ochr â’r gwledydd eraill sy’n cystadlu yn Ewro 2016, bydd Cymru’n cael ei chynrychioli mewn Pentref Ewropeaidd ym Mharis, a drefnwyd gan swyddfa maer y ddinas. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio’n agos gyda hwy a chyda Llysgenhadaeth Prydain, ond yn sgil y llifogydd diweddar yn y ddinas gohiriwyd agoriad y pentref, yn anffodus, oherwydd ei lleoliad ar lan yr afon Seine. Mae ein meddyliau gyda’r rhai ym Mharis sydd wedi gweithio’n galed i baratoi’r Pentref Ewropeaidd mewn pryd. Pan fydd y pentref yn agor, bydd y stondin a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru yn arddangos rhai o gyrchfannau twristiaid amrywiol a chyffrous ein gwlad a mannau antur, i ddathlu ein Blwyddyn Antur ac i ddarparu presenoldeb arbennig i Gymru yng nghanol prifddinas Ffrainc ac ochr yn ochr â gwledydd eraill.

Mae canolfan gyfryngau tîm Cymru wedi’i lleoli yng nghanolfan y tîm yn Llydaw—lleoliad addas o ystyried y berthynas hirsefydlog rhwng Cymru a Llydaw. Bydd hysbysebion am Gymru mewn nifer o ieithoedd yn cael eu harddangos yn ystod y bencampwriaeth, a bydd gwybodaeth am Gymru yn cael ei darparu i’r mwy na 300 amcangyfrifedig o gyfryngau rhyngwladol a fydd yn cofnodi taith Cymru yn y bencampwriaeth. Mae Croeso Cymru hefyd wedi trefnu i fideos hyrwyddo gael eu dangos ar y sgriniau yn y parthau cefnogwyr arbennig yn Toulouse a Bordeaux, y disgwylir iddynt ddenu cefnogwyr o bob cwr o Ewrop. Yn nes at adref, bydd adeiladau eiconig Cymru, gan gynnwys cestyll Cadw, wedi’u goleuo’n goch i gefnogi’r tîm yn ystod y gemau grŵp.

Mae’r galw am docynnau ynddo’i hun yn brawf o faint y mae’r wlad gyfan yn bwriadu bod yn rhan o’r pencampwriaethau. Disgwylir i oddeutu 30,000 o gefnogwyr Cymru deithio i Ffrainc. Mae’r FAW wedi dweud yn glir fod y cefnogwyr wedi chwarae rhan enfawr yn y llwyddiant hwn a byddant, rwy’n sicr, yn cyfrannu eu hangerdd i’r bencampwriaeth. Mae Cymru yn chwarae gemau grŵp yn erbyn Slofacia yn Bordeaux a Rwsia yn Toulouse—dinasoedd go fawr gyda digon i ddiddanu’r cefnogwyr. Fodd bynnag, mae gêm Cymru yn erbyn Lloegr yn cael ei chwarae yn Lens, tref gryn dipyn yn llai. Nawr, er fy mod yn siŵr y bydd trigolion Lens yr un mor groesawgar tuag at y cefnogwyr ag unrhyw le arall yn Ffrainc, y tu allan i’r stadiwm nid oes llawer o leoedd ar gael i wylio’r gêm. Rwy’n llwyr gefnogi’r negeseuon a roddwyd i gefnogwyr Cymru gan yr heddlu na ddylent deithio i Lens os nad oes ganddynt docynnau i’r gêm.

Rydym i gyd yn ymwybodol o’r amgylchedd diogelwch presennol, yn y DU ac yn Ffrainc. Mae angen i gefnogwyr adael digon o amser i deithio i gemau gan y bydd mesurau diogelwch ychwanegol. Dylent roi gwybod i’r heddlu am unrhyw beth amheus. Y cyngor cryf yw y dylid cymryd sylw o gyngor teithio’r Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad, a fydd yn cael ei ddiweddaru ar ei wefan drwy gydol y bencampwriaeth. Mae’r heddlu hefyd wedi cynghori bod angen i gefnogwyr archebu llety ymlaen llaw ac edrych ar ôl eu pasbortau, ac maent wedi pwysleisio bod y cefnogwyr yn gweithredu fel llysgenhadon ar ran ein gwlad. Rwy’n llwyr gefnogi’r pwynt olaf. Rwy’n gobeithio y bydd cefnogwyr Cymru yn teithio i Ffrainc i fwynhau eu hunain, i wneud ffrindiau ac i wneud argraff gadarnhaol barhaol o Gymru ar y bobl y maent yn eu cyfarfod.

Mae hwn yn amser gwych i fod yn gefnogwr pêl-droed yng Nghymru ac yn amser cyffrous i fod yn Ysgrifennydd y Cabinet gyda chyfrifoldeb dros ddigwyddiadau mawr. Ceir teimlad gwirioneddol mai dim ond dechrau yw mynd drwodd i’r rowndiau terfynol i’r grŵp talentog hwn o chwaraewyr. Rwyf fi, yn bendant, yn methu ag aros i weld y tîm yn rhedeg allan ar y cae yn Bordeaux ac yn cynrychioli Cymru ar lwyfan y byd. Mae’r tîm, y chwaraewyr a’r holl gefnogwyr yn sicr wedi cofleidio’r thema ‘Gorau Chwarae Cyd Chwarae’, a gwn ein bod i gyd yn ymfalchïo yn llwyddiant y tîm. Mae’r genedl gyfan y tu ôl iddynt.