Part of the debate – Senedd Cymru am 4:33 pm ar 8 Mehefin 2016.
Hoffwn ddiolch i Russell George am ei gyfraniad gwerthfawr ac am ei eiriau caredig, ac edrychaf ymlaen at weithio gydag ef yn y pumed Cynulliad hefyd. Os caf grybwyll y pwynt olaf ynglŷn â hyrwyddo Cymru yn y dyfodol, dim ond dechrau yw hyn, wrth gwrs, ar yr hyn rwy’n ei weld fel cyfnod euraidd i bêl-droed Cymru ac i Gymru yn hyrwyddo’r gêm ar lwyfan byd-eang, oherwydd y flwyddyn nesaf, wrth gwrs, yng Nghaerdydd y cynhelir rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr—y diwrnod mwyaf yn y calendr chwaraeon. Bydd yn achlysur enfawr ac mae hwn yn gyfle perffaith i fynd ymlaen i sôn am achlysur pêl-droed mawreddog arall.
O ran parthau cefnogwyr, rwyf wrth fy modd fod Caerdydd ac Abertawe yn trefnu parthau cefnogwyr ar gyfer y bencampwriaeth. Rwy’n ymwybodol fod llawer o’r Aelodau wedi cysylltu â’u hawdurdodau lleol eu hunain i bwyso arnynt i wneud yr un peth, gan gynnwys fy nghyd-Aelod o Wrecsam, sydd wedi bod mewn cysylltiad â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Nid wyf yn ymwybodol fod awdurdodau lleol eraill wedi cytuno i greu parthau cefnogwyr. Ond yn sicr mae fy swyddogion wedi bod mewn cysylltiad ag awdurdodau lleol a chyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru er mwyn trafod ble a pha fathau o gynulliadau cyhoeddus y gellid eu trefnu. Rwy’n credu ei bod yn werth dweud ar y pwynt hwn, fodd bynnag, fod y bencampwriaeth hefyd yn cynnig cyfle gwych i dafarndai a thai bwyta i fanteisio ar y digwyddiadau, a bragdai yn wir. Felly, lle cynhelir parthau cefnogwyr o’r fath, byddwn yn annog trefnwyr, pan a phryd y bo modd, i sicrhau bod cyflenwyr a gwasanaethau lleol o Gymru yn manteisio ar y cyfleoedd hynny.
O ran ein hyrwyddiad, hoffwn roi gwybod i’r Aelodau mai fy mwriad—dywedaf ‘os a phan’ fyddwn yn mynd drwodd i’r camau bwrw allan—yw agor yr holl safleoedd Cadw ar y Sul cyntaf ar ôl mynd drwodd i roi mynediad am ddim i bawb, fel yr hyn y gallech ei alw’n ‘ddydd Sul y dathlu’ yn ystod y bencampwriaeth. Rwy’n credu ei fod yn dangos pwysigrwydd y bencampwriaeth i Gymru, ac yn rhoi cyfle i bobl o bob oed brofi peth o’n treftadaeth wych, sef yr hyn y mae cymaint o bobl yn dod i Gymru i’w brofi.
O ran etifeddiaeth y bencampwriaeth a beth rydym yn ei wneud i gefnogi datblygiad y gêm ar lefel llawr gwlad yn arbennig, rydym yn buddsoddi rhywbeth tebyg i £1 filiwn y flwyddyn mewn pêl-droed ar lawr gwlad drwy Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru, a hoffwn gofnodi fy niolch iddynt am wneud gwaith gwych, nid yn unig o ran hyrwyddo’r gêm, ond yn ymgysylltu â llawer o bobl ifanc a allai ymddieithrio o addysg fel arall. A thrwy wneud hynny, maent yn eu cadw mewn addysg ac yn gwneud yn siŵr eu bod yn cael addysg dda.
Nawr, gan edrych tua’r dyfodol, mae Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru yn bwriadu defnyddio’r ffaith fod y tîm wedi mynd drwodd i rowndiau terfynol Ewro 2016 fel catalydd i symud yn nes at eu gweledigaeth o bêl-droed fel rhywbeth sy’n fwy na gêm, a bydd pedwar llwybr cyflawni yn arwain at wneud pêl-droed yn gryfach ac yn fwy cynaliadwy yng Nghymru, a phêl-droed yn galluogi cymunedau i weddnewid. Mae’r pedwar llwybr yn cynnwys hybu clybiau ar lawr gwlad, ac felly ceir uchelgais, er enghraifft, i greu 100 o ddyddiau recriwtio pêl-droed cymunedol ar draws Cymru yn ystod yr haf. Mae tri deg o ddyddiadau wedi’u pennu hyd yn hyn, ond bydd hyn yn help sylweddol i glybiau ar lawr gwlad.
Yr ail elfen yw hybu cyfranogiad mewn gweithgareddau hamdden o fewn y gymuned. Ac felly, yn hyn o beth, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi lansio Cwpan y Bobl, sef cystadleuaeth hamdden genedlaethol bump bob ochr gyda phum grŵp cyfranogol, gan gynnwys grŵp i ddynion a menywod hŷn, grŵp iau, grŵp pêl-droed cerdded, a chyfranogiad pobl anabl hefyd, i wneud yn siŵr ei fod yn wirioneddol gynhwysol.
Y drydedd elfen yw cyfranogiad hamdden o fewn amgylchedd yr ysgol, ac unwaith eto, mae Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru, a Lidl hefyd, yn gwneud gwaith rhagorol yn y cyswllt hwn. A’r pedwerydd yw defnyddio pêl-droed fel arf i ysbrydoli a chynorthwyo addysg, ac efallai eich bod yn ymwybodol o lansiad rhaglen addysg ysgolion cynradd Ewro 2016, sydd ar gael i ysgolion cynradd gan CBAC ar Hwb.