6. 6. Cynnig i Atal Rheol Sefydlog

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:51 pm ar 8 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Reckless Mark Reckless UKIP 4:51, 8 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Rydych yn newydd i’ch rôl, fel rwyf fi i’r Cynulliad hwn, ac nid yw fy sylwadau ar y Rheolau Sefydlog yn adlewyrchiad arnoch chi na’ch swydd. Yn wir, rwy’n gwerthfawrogi’r sgyrsiau adeiladol rydym wedi’u cael ar y broblem.

Nid oes dianc rhag y ffaith ein bod ar hyn o bryd yn torri ein Rheolau Sefydlog, ac nid yw’n lle cyfforddus i unrhyw ddeddfwrfa fod. Fel egwyddor, mae gennym dryloywder ac mae gennym atebolrwydd. Rwy’n deall efallai na fydd llawer o’n hetholwyr yn darllen y Rheolau Sefydlog hyn, ond rwy’n credu ei bod yn bwysig i’r rhai a allai fod am ymgysylltu â’r Cynulliad a’n gweithdrefnau allu cyfeirio at y ddogfen hon yn y ffordd rwyf wedi ceisio ei wneud, er mwyn deall y gweithdrefnau a’r rheolau rydym yn eu cymhwyso yn y lle hwn.

Mae’n ofynnol i ni benodi Comisiwn y Cynulliad o fewn 10 diwrnod i benodi ein Pwyllgor Busnes. Rydym bellach 14 diwrnod ar ôl hynny ac wedi torri’r gofyniad hwnnw. Mae gennym faterion pwysig i Gomisiwn y Cynulliad, er enghraifft mewn perthynas â’r refferendwm Ewropeaidd a rhai o’r materion cyfreithiol sy’n ymwneud â hynny a neilltuaeth. Mae gennym yn awr, yn eitem 6, gynnig rwy’n ei ystyried yn amwys. Mae’n datgan ei fod

‘yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 7.1 sy’n ei gwneud yn ofynnol i ystyried cynnig i benodi aelodau’r Comisiwn heb fod yn fwy na 10 diwrnod ar ôl penodi’r Pwyllgor Busnes’.

Yn ôl pob tebyg nid ydym ond yn atal y rhan honno sydd â’r gofyniad 10 diwrnod, yn hytrach na’r holl destun rwyf newydd ei ddarllen. Wedyn, yn eitem 7, bydd gennym gyfeiriad yn ôl at

‘yn unol â Rheol Sefydlog 7.1’, sydd, wrth gwrs, newydd ei atal gennym i raddau braidd yn annirnadwy neu amwys. Yr hyn rydym yn amlwg yn ei wneud yw gweithredu fel sy’n ofynnol yn adran 27 o Ddeddf Llywodraeth Cymru, ond rwy’n poeni, lle nad ydym yn gweithredu o dan y Rheolau Sefydlog, ein bod yn eu diwygio mewn ffordd sy’n amwys, ac ni ddylem fod yn y fan hon. Rwyf wedi clywed amryw o bobl â statws uchel yn y lle hwn yn cyfeirio, yn amrywio, at ddehongliadau hyblyg neu bragmataidd o’r Rheolau Sefydlog, ac rwy’n gwneud y pwynt fod hon yn sail ddifrifol ar gyfer gweithdrefn. Dylai’r rheolau gael eu cyhoeddi, dylent fod yn glir, dylai ein hetholwyr allu eu gweld a dylai’r rhai ohonom sy’n edrych ar y pethau hyn allu dibynnu arnynt fel arweiniad i sut y bydd busnes yn cael ei wneud yn y lle hwn mewn gwirionedd.

Pan gyfarfuom 14 diwrnod yn ôl, yr opsiwn y credwn y dylem fod wedi’i ddewis fyddai gohirio’r ein trafodion er mwyn caniatáu i’r Pwyllgor Busnes ddod o hyd i gynnig i benodi Comisiwn y Cynulliad a dod yn ôl wedyn i gytuno ar y cynnig. Pe na baem wedi gwneud hynny, gallem fod wedi cael cynnig i atal Rheolau Sefydlog, neu’r rhan berthnasol—10 diwrnod gwaith efallai yn hytrach na 10 diwrnod—yn benodol yn ôl yr angen, yn hytrach na’u gadael i ni eu tramgwyddo, yna ceisio’u diwygio’n unig i unioni hynny wedyn, yn ôl pob golwg. Nid wyf yn bwriadu gwrthwynebu unrhyw un o’r cynigion hyn, ond roeddwn eisiau dweud hynny ar gyfer y cofnod. Diolch.